Cost of Living Support Icon

Strategaeth Hygyrchedd 2021-24 

 

Mae'r strategaeth yn amlinellu nodau ac ymrwymiadau'r Cyngor i wella:

  • I ba raddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm ysgolion

  • Amgylchedd ffisegol ysgolion

  • Gallu disgyblion, gofalwyr a theuluoedd i gael gafael ar wybodaeth

  • Chyfathrebu a Thryloywder - bod yn agored ac yn onest am yr hyn y gellir ei ddisgwyl neu ei gyflawni.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau bod pob disgybl yn ei ysgolion a gynhelir a'i leoliadau addysgol yn cael pob cyfle i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau lleol, a bod ganddynt yr amgylcheddau dysgu gorau posibl. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r cyngor yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o Arolygon Cyflwr o bob ysgol er mwyn sicrhau bod yr holl bryderon hygyrchedd yn cael eu nodi'n glir. I gael rhagor o wybodaeth am ysgol unigol, gofynnwch i'r ysgol am eu Cynllun Hygyrchedd.

 

I gael rhagor o wydbodaeth am strategaeth y cynghorau, cysylltwch ag schoolorganisation@valeofglamorgan.gov.uk

 

Bydd y strategaeth yn egluro safbwynt y Cyngor ar wella hygyrchedd i ddisgyblion anabl ac yn amlinellu cyfrifoldebau ysgolion o ran bodloni eu gofynion o ran hygyrchedd gan gynnwys hygyrchedd y cwricwlwm, yr amgylchedd ffisegol a gwybodaeth i ddisgyblion anabl.  Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ymgysylltu mor llawn â phosibl yn ei ddysgu a'i ddatblygiad a bydd y strategaeth hon yn helpu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn amgylchedd ysgol.

 

Rhagor o wybodaeth:

 

Strategaeth Hygyrchedd Bro Morgannwg 2021-24 (Hygyrchedd i Ddisgyblion Anabl)

 

Gweledigaeth Plant a Phobl Ifanc