Cost of Living Support Icon

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd pan fydd person yn achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i bobl nad ydynt o’r un aelwyd â’r person hwnnw. Daw'r diffiniad hwn o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 a Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

 

Mae tri phrif gategori yn seiliedig ar faint o bobl sy'n cael eu heffeithio:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol personol: Yn targedu unigolyn neu grŵp penodol

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans: Yn achosi trafferth ac annifyrrwch i gymuned

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol: Yn effeithio ar fannau neu adeiladau cyhoeddus

 

O dan y categorïau hyn, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhannu'n 13 math:

  • Cerbyd wedi'i adael
    Cerbydau sydd wedi’u gadael gan berchnogion, nid rhai wedi'u dwyn. Mae hyn yn cynnwys cerbydau sgrap neu'r rhai sydd wedi'u difrodi mewn damweiniau sy'n aros i gael ei gasglu.
  • Niwsans neu ddefnydd amhriodol o gerbydau
    Defnyddiau annifyr o gerbydau, fel gyrru o amgylch y strydoedd neu yrru oddi ar y ffordd. Mae hefyd yn cwmpasu camddefnyddio go-peds, sglefrfyrddau modur, a delio ar gerbydau didrwydded.
  • Ymddygiad swnllyd neu ddiystyriol
    Niwsans cyffredinol mewn mannau cyhoeddus, fel clybiau preifat. Nid yw'n cwmpasu anghydfodau domestig neu anhrefn cyhoeddus. Dylid rhoi gwybod am y rhain fel troseddau.
  • Cymdogion swnllyd neu niwsans
    Cymdogion swnllyd neu niwsans
  • Sbwriel neu gyfarpar cyffuriau
    Gosod posteri'n anghyfreithlon a thaflu sbwriel neu eitemau sy'n gysylltiedig â chyffuriau mewn mannau cyhoeddus.
  • Problemau anifeiliaid
    Sefyllfaoedd lle mae anifeiliaid yn achosi niwsans, fel anifeiliaid anwes heb eu rheoli neu gŵn strae.
  • Tresmasu
    Mynd i mewn i dir neu eiddo heb ganiatâd, gan gynnwys cerdded trwy ardd rhywun a sefydlu gwersylloedd.
  • Galwadau niwsans

    Cyfathrebu annifyr dros y ffôn, fel galwadau tawel a marchnata ymwthiol. Nid yw'n cwmpasu ymddygiad anweddus. Dylid rhoi gwybod am hyn fel trosedd.

  • Yfed ar y stryd

    Yfed heb drwydded mewn mannau cyhoeddus, lle mae'r ymddygiad yn cael ei ystyried yn wrthgymdeithasol

  • Gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phuteindr
    Gweithgareddau fel loetran neu hyrwyddo puteindra. Gall hyn gynnwys problemau sy’n ymwneud â phuteindai sy'n effeithio ar drigolion lleol. Dylid rhoi gwybod am 'chwilio am buteiniaid o gerbyd' fel trosedd.
  • Sŵn niwsans
    Materion sŵn nad ydynt yn ymwneud â chymdogion.
  • Cardota
    Cardota yn gyhoeddus heb drwydded neu annog plant i wneud hynny. Gall gwerthwyr tocynnau didrwydded ger gorsafoedd trafnidiaeth gael eu cynnwys yn y categori hwn
  • Camddefnyddio tân gwyll
    Defnydd amhriodol, gwerthu anghyfreithlon, neu feddiant tân gwyllt

 

Beth nad yw’n ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Sŵn gan blant yn chwarae

  • Gwahaniaethau personol

  • Dadleuon yn y teulu

  • Gordyfiant gerddi

  • Synau byw arferol, fel fflysio toiledau a chau drysau

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol. Fel arfer ni fyddwn yn cymryd camau yn yr achosion hyn. Fodd bynnag, byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn esbonio pam nad oes modd cymryd camau. Efallai y byddwn hefyd yn rhoi cyngor ar sut i fynd i'r afael â'r materion hyn eich hun.

 

Gweler ein cyngor ar ddelio â chymdogion.

I bwy y dylid rhoi gwybod?

Os ydych chi'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae angen i chi roi gwybod amdano. Rydym yn annog y cyhoedd i gadw cofnod o ddigwyddiadau, gan nodi amseroedd, dyddiadau ac enwau os yn bosibl, ac i adrodd i Adran berthnasol y Cyngor, fel Tai, neu'r Heddlu. 

 

Mae gan y Bartneriaeth system bedwar cam gydgysylltiedig i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Partneriaeth Bro

 

Ddiogelach yn defnyddio dulliau amrywiol, gan ddangos nad niferoedd uchel o orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) yw'r unig ateb.

  

I roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch Gyngor Bro Morgannwg ar 01446 700111, neu Heddlu De Cymru ar 101.

 

E-bost: