Cost of Living Support Icon

Cyngor ar ymdrin â chymdogion

Rydyn ni eisiau i bawb fyw eu bywydau'n heddychlon a chyd-dynnu â’u cymdogion

 

Mae cymdogion da yn ystyriol, yn oddefgar ac yn deall pobl eraill a’u gwahanol ffyrdd o fyw, ac maent yn helpu i adeiladu cymunedau llwyddiannus.

 

Pan allai fod problem gyda chymdogion

Mae yna wahanol ymddygiadau a all achosi problemau i gymdogion ac mae rhai yn fwy difrifol nag eraill.

 

Gwahanol ffyrdd o fyw a digwyddiadau untro

Rydyn ni i gyd yn wahanol a dylech barchu’r ffaith efallai na fydd pobl eraill yn byw eu bywydau yn yr un ffordd ag y byddwch chi'n byw eich bywyd chi.

 

Yn aml nid yw pobl yn sylweddoli eu bod yn aflonyddu ar eraill ac nid ydynt yn gwneud hynny yn fwriadol. Er enghraifft, efallai nad yw rhywun sy'n hwfro yn hwyr yn y nos yn ymwybodol bod y cymdogion yn gallu ei glywed a’i fod yn aflonyddu arnyn nhw.

 

Gall digwyddiadau untro fod yn annifyr ar y pryd, fel parti neu barbeciw swnllyd. Ond os ydyn nhw'n rhan o fywyd bob dydd, ac nad ydyn nhw’n digwydd yn aml, dylech geisio eu goddef. Os ydyn nhw’n digwydd yn rheolaidd, ac mae'r aflonyddwch yn achosi problem i chi, mae'n aml yn fater o godi ymwybyddiaeth eich cymydog o’r peth mewn ffordd gyfeillgar a cheisio cyrraedd datrysiad gyda'ch gilydd.

 

Rydyn ni’n annog trigolion i geisio datrys materion ynghylch gwahanol faterion ffordd o fyw a mân niwsans, oherwydd gall ein cynnwys ni neu asiantaethau eraill cyn siarad â'ch cymdogion, arwain at deimladau gelyniaethus a gwaethygu’r mater.

 

Enghreifftiau o weithgareddau arferol o fewn ac o amgylch y cartref ar lefelau rhesymol yw:

  • Plant yn chwarae 

  • Plant a babanod yn crio

  • Digwyddiadau ynysig a byr o gŵn yn cyfarth 

  • Gweithgareddau gwaith y cartref ar adegau rhesymol o'r dydd

  • Sŵn byw bob dydd yn y cartref, sŵn traed, toiledau yn fflysio, hwfro, defnyddio peiriant golchi a chyfarpar eraill

  • Plant yn gwrthdaro

  • Partïon a barbeciws untro

  • Gallwch fod yn gymydog da yn y ffyrdd canlynol:
    • Dangos goddefgarwch - Ni all unrhyw gymydog fod yn berffaith bob amser ac mae gan bob un ohonom wahanol ffyrdd o fyw
    • Bod yn gyfeillgar - dweud helo wrth ei gilydd. Gall 'BORE DA' cyfeillgar wneud byd o wahaniaeth i rywun
    • Bod yn Barchus - Meddwl am yr effaith rydych chi'n ei chael ar eich cymdogion yn y ffordd rydych chi'n ymddwyn
    • Parchu preifatrwydd eich gilydd
    • Dod i adnabod eich gilydd
    • Cadw golwg ofalgar ar eich gilydd, cadw llygad allan pan fydd pobl ar wyliau, neu yn yr ysbyty
    • Galw ar gymdogion nad ydych wedi'u gweld i wneud yn siŵr eu bod yn iawn
    • Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
    • Mae gwirfoddoli yn y gymuned yn ffordd dda o wneud ffrindiau
    • Glanhau eich lleoliad cyn i chi adael
    • Peidio â gadael sbwriel / gwastraff swmpus
    • Bod yn Oddefgar ac yn Barchus

Beth allwch chi ei wneud os yw'ch cymydog yn achosi problemau

Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch cymydog yn gynnar am unrhyw beth y mae’n ei wneud a allai fod yn effeithio arnoch. Yn aml, dyma'r ateb cyflymaf a hawsaf.

 

  • Awgrymiadau ynglŷn â thrafod â’ch cymydog:
    • Siaradwch â'ch cymydog wyneb yn wyneb os yw’n bosibl
    • Dewiswch amser sydd orau i bawb (e.e. osgoi amseroedd bwyd neu yn hwyr yn y nos)
    • Cynlluniwch beth rydych chi'n mynd i'w ddweud ymlaen llaw
    • Byddwch yn gwrtais ac esboniwch y broblem a sut mae'n effeithio arnoch
    • Gwrandewch ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud oherwydd gallai fod ganddo esboniad rhesymol
    • Byddwch â dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o fyw
    • Byddwch yn agored i awgrymiadau ar gyfer datrys y broblem
    • Dewch i gytundeb y mae pawb yn hapus ag ef
  • Ceisiwch beidio â...
    • Mynd at eich cymydog os nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel. Os ydych yn ofni y gallai fynd yn ymosodol yna mae'n well peidio â chysylltu ag e
    • Mynd i’w weld pan fyddwch yn teimlo'n ddig neu'n ofidus iawn am y broblem
    • Bod yn ddadleuol neu ddefnyddio ymddygiad bygythiol Gall hyn waethygu’r sefyllfa a’i throi’n rhywbeth llawer gwaeth na'r broblem gychwynnol

 

Os ydych yn teimlo na allwch fynd at eich cymydog eich hun, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried eich opsiynau i'ch cynorthwyo.

 

Os bydd yr ymddygiad yn gwaethygu i ymddygiad gwrthgymdeithasol, byddwn yn ymdrin ag e yn unol â’n gweithdrefnau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill a fydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i chi.

 

Cyngor ar fod yn gymydog da

Isod ceir rhai canllawiau ar wahanol ffyrdd y gallwch ymdrechu i fod yn gymydog da.

 

  • Parcio

    Oni bai bod gennych le parcio neu ddreif ddynodedig, mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parcio eu ceir ar y ffordd y tu allan i'w cartref eu hunain er hwylustod.

     

    Fodd bynnag, oherwydd nifer y ceir sydd ar y ffordd a'r prinder lleoedd parcio sydd ar gael, nid yw bob amser yn bosibl parcio y tu allan i'ch cartref. 

     

    • Dangoswch ystyriaeth a pharch i drigolion eraill wrth barcio'ch cerbyd
    • Rhaid cydnabod nad oes gan neb hawl awtomatig i barcio'n uniongyrchol y tu allan i'w cartref Mae'r gyfraith yn caniatáu i unrhyw un barcio ar briffordd gyhoeddus cyn belled â bod y cerbyd wedi’i drethu ac mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cael eu dilyn
    • Peidiwch â rhwystro mynedfeydd, parcio wrth ymyl cyrbau isel, tu allan i garejys, na pharcio mewn ffordd sy'n atal defnyddwyr cadair olwyn a phramiau rhag defnyddio'r palmant. Hefyd, peidiwch â rhwystro mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys

     

    Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd camau mewn perthynas â cherbydau sy’n cael eu gadael a pharcio niwsans (e.e. parcio y tu allan i fannau parcio dynodedig, gadael cerbydau i hysbysebu eu bod ar werth, neu wneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw ar ffordd).

  • Sŵn

    Fel rhan o fywyd bob dydd, a'r ffaith nad oes unrhyw gartref yn gwbl wrthsain, rhaid i bob un ohonom ddisgwyl rhywfaint o sŵn gan y bobl sy'n byw o'n cwmpas.

     

    Mae sŵn byw cyffredin bob dydd yn cynnwys teledu a stereos, gwaith y cartref, cŵn yn cyfarth, larymau tresmaswyr neu geir, drysau’n clepio, neu gerdded o amgylch yr eiddo.

     

    • Rhaid cydnabod nad yw'ch cymdogion yn dymuno clywed sŵn o'ch cartref, yn enwedig yn hwyr yn y nos, neu am gyfnodau hir

    • Cadwch sŵn (e.e. o'r teledu, stereo, radio) ar lefel resymol bob amser o'r dydd

    • Mae sŵn yn cario trwy waliau, lloriau a drysau. Gall lloriau laminedig (yn enwedig mewn fflatiau), ac arwynebau caled eraill, helaethu’r sŵn. I helpu i'w leihau, rhowch rygiau ar y llawr a rhowch ffelt neu badiau rwber o dan ddodrefn symudol

    • Rhybuddiwch eich cymdogion os ydych chi'n mynd i wneud unrhyw beth swnllyd (e.e. cael parti neu wneud gwaith y cartref)

    • Cydweithredwch â'ch cymdogion os byddan nhw’n gofyn i chi leihau sŵn. Er enghraifft, gallwch osod eich teledu neu stereo i ffwrdd o'r waliau rydych chi'n eu rhannu gyda'ch cymdogion

     

    Os cewch eich effeithio gan sŵn gallwch roi gwybod amdano Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

  • Ardaloedd cyffredin

    Efallai y byddwch yn rhannu ardaloedd cymunedol â’ch cymdogion, fel grisiau, balconïau, coridorau, lifftiau neu allanfeydd tân.

     

    • Peidiwch â rhwystro ardaloedd cymunedol gyda phramiau, beiciau neu eiddo personol arall

    • Os oes gennych ardal finiau gymunedol, gwaredwch eich sbwriel yn gywir yn y biniau, a gwnewch yn siŵr bod yr ardal o amgylch y biniau yn cael ei chadw'n daclus

    • Os oes gennych unrhyw eitemau cartref swmpus nad ydych eu heisiau mwyach, gall eich awdurdod lleol eu symud i chi os byddwch yn ffonio 01446 700111

    • Os ydych chi'n rhannu drws cymunedol, gwnewch yn siŵr ei fod ar gau bob amser ac nad ydych yn gadael i unrhyw un fynd i mewn nad ydych chi'n ei adnabod. Bydd hyn yn cadw cartrefi pawb yn ddiogel

    • Peidiwch â gadael i ddrysau'r brif fynedfa gau’n glep, yn enwedig yn y nos, gan fod hwn yn aml yn arwain at gwyno am sŵn.

  • Gardd

    Os oes gennych ardd, gall achosi problemau os nad ydych yn gofalu amdani’n iawn.

     

    • Peidiwch â gadael i'ch gardd ordyfu a mynd yn anniben. Mae ei chadw'n daclus heb unrhyw sbwriel yn helpu i wella golwg yr ardal. Lle mae gerddi yn edrych eu bod wedi’u hesgeuluso, weithiau gallan nhw annog tipio anghyfreithlon

    • Os yw coed neu wrychoedd eich cymdogion yn broblem, efallai y byddwch yn gallu tocio neu dynnu unrhyw beth sy'n dod dros eich ochr chi o'r ffin cyn belled â'ch bod yn cynnig unrhyw doriadau yn ôl i'ch cymydog. Ond, mae rhai coed wedi'u gwarchod ac mae'n well gofyn i’ch cymydog yn gyntaf cyn i chi gymryd unrhyw gamau

    • Os ydych chi'n oedrannus neu'n anabl ac yn methu cynnal a chadw eich gardd, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd

     

    Mae llawer o bobl yn mwynhau gweld bywyd gwyllt yn eu gardd, fel llwynogod, gwiwerod a moch daear, ond mae rhai pobl yn ystyried y rhain yn niwsans.

     

    Os ydych chi’n dymuno atal bywyd gwyllt o'ch gardd mae angen i chi gyfyngu mynediad at unrhyw gyflenwadau bwyd sydd ganddyn nhw, cael gwared ar unrhyw fannau lloches posibl, a'u hatal rhag dod i mewn.

     

    Am wybodaeth a chyngor gallech gysylltu â'r RSPCA ar 0300 1234 999.

  • Coelcerth

    Nid oes cyfraith sy'n dweud na allwch gael coelcerth yn eich gardd ond y prif achos annifyrrwch yn sgil coelcerthi yw'r mwg.

     

    • Rhowch wybod i'ch cymdogion eich bod yn bwriadu cael coelcerth a gweld a allwch chi gytuno ar ddyddiad ac amser derbyniol

    • Dewiswch yr amser o'r dydd a'r amodau tywydd a fydd yn achosi'r lleiaf o anghyfleustra i gymdogion

    • Peidiwch â chynnau coelcerth os yw'ch cymydog wedi rhoi dillad allan i sychu, neu os yw eu ffenestri ar agor, neu os ydyn nhw’n defnyddio eu gardd

    • Peidiwch â chynnau coelcerth yn agos at eiddo eich cymdogion er mwyn atal y perygl y bydd y tân yn lledaenu

    • Yn hytrach na chael coelcerth, gallech ystyried dulliau eraill o waredu sbwriel, megis defnyddio'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref leol neu gompostio gwastraff gardd

  • Plant yn chwarae

    Does neb eisiau atal plant rhag chwarae y tu allan, gan ei fod yn iach ac yn ffordd dda o gael ymarfer corff rheolaidd.

     

    • Weithiau gall plant sy’n chwarae gemau pêl ar y stryd achosi pryder i gymdogion y gallai eu ceir gael eu difrodi yn ddamweiniol. Byddwch yn ymwybodol o hyn ac ystyriwch a oes man mwy diogel i chwarae

    • Ystyriwch sut y gallai sŵn plant yn chwarae y tu allan effeithio ar eich cymdogion

    • Meddyliwch am leoedd eraill sy'n fwy addas i chwarae, fel parc neu ardal sglefrfyrddio

    • Os bydd plentyn yn taflu pêl i mewn i'ch eiddo'n ddamweiniol, dylech naill ai ei rhoi yn ôl iddo neu adael iddo ddod i’w chasglu. Gall atal peli arwain at ddadlau rhwng cymdogion

     

    Os bydd plant yn aflonyddu, yn dychryn neu'n tarfu ar eraill, yna gellir cyfiawnhau’r cwynion a rhaid i rieni fod yn rhesymol wrth ymateb.

  • Bod yn berchennog ci cyfrifo

    Mae cŵn yn gymdeithion gwych ond i gadw ci dylech gysylltu â ni yn gyntaf i wneud yn siŵr bod hawl gennych gadw un.

     

    • If you are allowed a dog, make sure it doesn’t whine or bark for long periods of time
    • If your dog fouls in a public space, you should clean it up
    • Os ydych yn cael perchen ar gi, gwnewch yn siŵr nad yw’n swnian nac yn cyfarth am gyfnodau hir

    • Os yw'ch ci yn baeddu mewn man cyhoeddus, dylech ei lanhau

    • Cadwch eich ci dan reolaeth bob amser. Defnyddiwch dennyn wrth gerdded y ci. Gall cŵn sy'n rhedeg o gwmpas yn rhydd, yn enwedig ar y strydoedd neu mewn ardaloedd cymunedol, fod yn frawychus i bobl eraill

    • Mae dosbarthiadau ymddygiad yn helpu i ddysgu eich ci i fod yn ufudd a'i gwneud yn arferol i fod o gwmpas cŵn eraill 

    • Sicrhewch fod meicrosglodyn yn eich ci fel y gellir ei olrhain yn ôl i chi os bydd yn mynd ar goll