Diogelwch y Cartref
Diogelwch cartref yw'r ffordd orau o leihau’r tebygolrwydd o ddioddef lladrad. Mae llawer o fyrgleriaeth ddigwydd yn y fan a’r lle, gan y gall lleidr weld ffenestr agored neu bwynt mynediad hawdd arall a manteisio ar y cyfle.
Awgrymiadau sylfaenol
- Pan fyddwch chi’n mynd allan, dylech bob amser gloi'r drws a chau'r ffenestri – hyd yn oed os ydych yn mynd allan am gyfnod byr
- Bydd cloeon ffenestri, yn enwedig ar ffenestri hŷn, yn helpu i atal pobl rhag mynd i mewn (a chofiwch, mae lleidr yn llai tebygol o dorri i mewn os oes rhaid iddyn nhw dorri ffenestr)
- Os oes gennych gloeon marw, defnyddiwch nhw. Maen nhw'n ei gwneud hi'n anoddach i leidr adael. Ond peidiwch â gadael yr allwedd ger y drws nac mewn man amlwg
- Peidiwch â gadael allweddi sbâr y tu allan nac mewn sied neu garej, a rhowch allweddi car neu allweddi garej allan o'r golwg yn y tŷ
- Defnyddiwch amserwyr ar gyfer goleuadau a radios os oes angen i chi fod oddi cartref dros nos. Byddant yn creu'r argraff bod rhywun yno
- Gall larymau lladron gweladwy, goleuadau da, a goleuadau diogelwch wedi'u cyfeirio'n ofalus atal lladron. Ond gwnewch yn siŵr nad yw goleuadau yn tarfu ar eich cymdogion, a bod larymau'n diffodd ar ôl 20 munud
- Gall ffensys yng nghefn y tŷ wneud yr ardal hon yn fwy diogel, ond gall waliau a ffensys solet ganiatáu i leidr dorri i mewn heb gael ei weld. Cyfaddawd da yw ffensys cadwyn, neu ddelltwaith gyda llwyni pigog
- Mae gosod 'twll ysbïo' yn caniatáu i chi weld pwy sydd wrth y drws. Mae cael cadwyn drws yn golygu eich bod yn gallu agor y drws rhywfaint i siarad â nhw
Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw welliannau rydych chi'n eu gwneud yn eich atal rhag mynd allan o'ch tŷ cyn gynted â phosibl os oes tân.
Pwy all helpu i wneud hyn
Tenantiaid
Os ydych chi'n rhentu eich tŷ neu fflat, mae gan eich landlord rywfaint o gyfrifoldeb tuag at ei ddiogelwch. Os nad yw'ch cartref yn ddiogel, gofynnwch i'ch landlord a fydd yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol. Bydd yn rhatach iddyn nhw osod cloeon ffenestri na thrwsio ffenestr sydd wedi torri.
Os ydych chi'n byw mewn tai cymdeithasol neu mewn bloc o fflatiau, gallai ffurfio cymdeithas tenantiaid wneud diogelwch yn haws.
Perchnogion tŷ
Gall gwario arian ar fesurau diogelwch deimlo fel ymrwymiad mawr, ond mae'n fuddsoddiad da, bydd yn para amser hir a gall ychwanegu gwerth at eich eiddo.
Cysylltwch â'ch cyngor neu'ch heddlu lleol am gymorth. Efallai y byddant yn gallu eich cynghori ar y mesurau gorau i ddiogelu eich eiddo, ac efallai y bydd ganddynt grantiau i helpu i dalu'r gost.