Cost of Living Support Icon

E-Droseddu

E-drosedd yw defnyddio cyfrifiaduron neu dechnoleg rhyngrwyd i gyflawni troseddau. Wrth i fwy o bobl ddefnyddio ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen, mae risgiau ar-lein yn cynyddu

 

Mathau o E-Droseddu

Mae e-droseddu yn cynnwys sawl ffurf, fel:

 

Cam-drin ac Aflonyddu Ar-lein

  • Lledaenu sibrydion niweidiol

  • Anfon bygythiadau neu negeseuon dychrynllyd

  • Targedu unigolion fel grŵp (trolio)

  • Stelcian neu aflonyddu dro ar ôl tro ar-lein

  • Rhannu delweddau neu fideos gwaradwyddus heb ganiatâd

Camfanteisio a Meithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein

  • Camfanteisio ar blant

     

  • Meithrin perthynas amhriodol ar-lein i hunan-niweidio, niweidio eraill neu droseddu

     

  • Creu proffiliau ffug i dargedu pobl

Seiberfwlio a Bygythiadau

  • Bwlio ar lwyfannau gemau cyfrifiadurol neu gyfryngau cymdeithasol

  • "Slapio Hapus" – ffilmio ymosodiadau a'u rhannu

  • Postio manylion preifat heb ganiatâd

Twyll a Throsedd Hunaniaeth

  • Dwyn hunaniaeth neu ddynwared

  • Sgamiau neu dwyll ar-lein

     

  • Dwyn drwy lwyfannau ar-lein

Cadw’n Ddiogel Ar-lein

  • Bod yn ofalus gyda gwybodaeth bersonol

  • Defnyddio cyfrineiriau cryf, unigryw

  • Rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad camdriniol neu amheus

  • Addysgu plant a phobl agored i niwed am risgiau ar-lein

Cadw'n Ddiogel ar Safleoedd Caru Ar-lein, Fforymau a Byrddau Negeseuon

Diogelu eich gwybodaeth bersonol

  • Peidio byth â rhannu manylion adnabyddadwy megis eich enw llawn, cyfeiriad, gweithle, neu rif ffôn

  • Dewiswch lysenw nad yw’n datgelu eich rhyw, oedran, neu enw go iawn

Cwrdd â Rhywun Wyneb yn Wyneb

  • Dylech gyfarfod bob amser mewn man cyhoeddus

  • Dewch â chyfaill neu gadewch i rywun wybod eich cynlluniau

  • Trefnwch gysylltu â ffrind ar adeg benodol

Byddwch yn Ofalus gyda Lluniau

  • Diffoddwch y tagiau geo-leoliad ar eich ffôn neu gamera cyn anfon lluniau

  • Dylech osgoi rhannu hen luniau os nad ydych yn siŵr a ydynt yn cynnwys data lleoliad

Siopa Ar-lein

Peidiwch â Throsglwyddo Arian Talwch - am eitemau ar-lein bob amser gyda cherdyn ar dudalen ddiogel, drwy siec, neu ag arian parod, wyneb yn wyneb. Ni waeth pa mor eiddgar ydych chi, peidiwch byth ag anfon arian yn uniongyrchol i gyfrif y gwerthwr. Efallai na fyddwch byth yn gweld yr eitem na'ch arian eto.

 

Gwiriwch fod Tudalennau Talu yn Ddiogel - Cyn nodi manylion eich cerdyn, gwnewch yn siŵr bod y dudalen dalu yn ddiogel. Chwiliwch am 'https' ar ddechrau'r cyfeiriad (mae'r 's' yn golygu 'diogel') a symbol clo neu allwedd yn y ffenestr pori.

 

Defnyddio Cerdyn Credyd - Wrth dalu, cofiwch fod cardiau credyd yn aml yn cynnig gwell amddiffyniad. Rydych chi'n fwy tebygol o gael eich arian yn ôl os bydd problemau'n codi. Efallai y bydd rhai gwerthwyr yn codi mwy, ond gall fod yn werth chweil er tawelwch meddwl i chi.

 

Defnyddio Safleoedd Arwerthu yn Ddiogel - Mae llawer o bobl yn siopa ar safleoedd arwerthu. Defnyddiwch ddulliau talu dibynadwy bob amser yn hytrach na thalu gwerthwyr yn uniongyrchol. Darllenwch amodau'r wefan a’r gwerthwr. Os ydych chi'n casglu wyneb yn wyneb, ewch â rhywun gyda chi neu gadewch wybod i eraill ble byddwch chi.

 

Gofalu wrth Edrych ar Fargeinion - Os ydych chi'n dod o hyd i eitem sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, gallai fod yn sgâm neu'n ffug. Byddwch yn wyliadwrus, nid aur yw popeth melyn.

 

Defnyddio Rhwydweithiau Cymdeithasol yn Ddiogel - Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ffynhonnell gynyddol o sgamiau. Os ydych chi'n gweld neges yn cynnig rhywbeth am ddim neu wobr wych, meddyliwch yn ofalus cyn ymateb.

 

Defnyddio E-bost yn Ddiogel - Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost sy'n gofyn i chi glicio dolenni ar gyfer cynigion arbennig neu i agor atodiadau. Hyd yn oed os yw'r e-bost yn edrych yn gyfreithlon, gallai fod yn sgâm. Os nad ydych yn siŵr, dilëwch a pheidiwch ag ymateb.

 

Gofalu am eich Ffôn Clyfar neu Gyfrifiadur Llechen - Amddiffynnwch eich ffôn clyfar neu gyfrifiadur llechen gydag ap diogelwch ag enw da a PIN. Gosodwch reolaethau rhieni ar ddyfeisiau plant a thrafod defnydd diogel o'r rhyngrwyd gyda nhw.

 

Cofiwch Allgofnodi - Allgofnodwch bob amser ar ôl eich sesiwn siopa neu fancio ar-lein. Nid yw cau'r ffenestr yn eich allgofnodi. Gallai rhywun arall gael mynediad i'ch cyfrif. Peidiwch ag anghofio gwirio a chadw e-byst cadarnhau prynu.

 

Sicrhau bod y Wi-Fi yn Ddiogel - Sicrhewch fod eich Wi-Fi cartref yn ddiogel cyn gwneud unrhyw beth cyfrinachol ar-lein. Pan fyddwch allan, fel mewn caffis neu westai, efallai na fydd y Wi-Fi yn ddiogel. Mae'n fwy diogel defnyddio 3G neu 4G ar gyfer siopa neu fancio, hyd yn oed os yw'n arafach.

 

Byddwch yn Ofalus rhag Galwadau Ffôn Sgamiau - Os yw galwr yn honni ei fod gan fanwerthwr sy'n cadarnhau pryniant ar-lein, gallai fod yn sgâm. Efallai y byddant yn ceisio eich twyllo i ddatgelu manylion ariannol. Os bydd hyn yn digwydd, gorffennwch yr alwad, peidiwch â ffonio yn ôl, ac adroddwch yr alwad i Action Fraud.

 

Gwirio Cyfriflenni Banc - Gwiriwch eich cyfrifon banc a cherdyn credyd yn rheolaidd am unrhyw drafodiadau anarferol. Os ydych chi'n dod o hyd i gofnodion nad ydych chi'n eu hadnabod, cysylltwch â'ch banc ar unwaith. Gwnewch yn siŵr bod ganddynt eich manylion cyswllt cyfredol i'ch rhybuddio am unrhyw weithgaredd amheus.

 

Cadw'n Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys llwyfannau fel Facebook, Instagram, X (Twitter gynt), Snapchat, a mwy. Mae'r llwyfannau hyn yn ein helpu i gysylltu, ond mae diogelu eich preifatrwydd a'ch diogelwch ar-lein yn allweddol.


Awgrymiadau ar gyfer Cadw'n Ddiogel

  • Byddwch yn ddienw: Peidiwch â rhannu manylion personol fel eich cyfeiriad, rhif ffôn, neu drefn ddyddiol.
  • Defnyddiwch enw defnyddiwr niwtral: Dewiswch lysenw nad yw’n datgelu eich rhyw, oedran, nac enw go iawn.
  • Adolygwch eich gosodiadau preifatrwydd: Sicrhewch mai dim ond ffrindiau dibynadwy sy'n gallu gweld eich negeseuon a'ch gwybodaeth proffil.
  • Newidiwch eich cyfrineiriau yn rheolaidd: Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, unigryw a'u diweddaru'n aml.
  • Peidiwch â derbyn ceisiadau ffrindiau anhysbys: Cysylltwch â phobl rydych chi'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.
  • Osgowch gael eich tagio mewn lluniau: Dilëwch y tagiau a chyfyngu ar bwy all eich tagio yn eich gosodiadau.
  • Peidiwch byth â rhannu eich cyfrineiriau: Os gwnewch chi hynny, newidiwch nhw ar unwaith - hyd yn oed os oedd yn gamgymeriad.
  • Ystyriwch greu cyfrif newydd: Rhannwch â ffrindiau agos yn unig a gofynnwch iddyn nhw addasu eu gosodiadau preifatrwydd hefyd.