Cost of Living Support Icon

Cynllun Newid

Ar 13 Ebrill 2011, cymeradwyodd y Cabinet y Cynllun Newid newydd ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol 2011-2014. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar y blaenoriaethau gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr 2009/2010 ac yn manylu ar y camau i'w cymryd i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn.

 

Dangosodd y dystiolaeth yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr fod gan y Fro sylfeini da y gellir adeiladu arnynt wrth ymateb i'r heriau a nodwyd. At hyn, yn yr un modd ag awdurdodau lleol eraill, cafwyd cynnydd parhaus mewn meysydd fel sicrhau gweithlu mwy cymwys gyda sgiliau sy'n eu galluogi i weithio ar draws ffiniau sefydliadol, ystod fwy ymatebol o wasanaethau sydd ar gael, paru mwy systematig o adnoddau i anghenion, mwy o fodlonrwydd defnyddwyr gwasanaeth, gwell arweinyddiaeth a mwy o arloesi. Bydd y Cynllun Newid newydd yn helpu i sicrhau y ceir, drwy adeiladu ar y cryfderau hyn, cyfeiriad cydlynol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn y Fro a fframwaith trosfwaol ar gyfer gwelliant parhaus ac ailgynllunio gwasanaethau.

 

Mae'r Cynllun Newid newydd yn nodi yn ffurfiol (fel strategaeth y Cyngor) y cynllun strategol tymor hir ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol gyda chamau gweithredu allweddol, swyddogion sy'n gyfrifol am gyflawni camau gweithredu ac amserlenni i’w cwblhau. Mae'r Cynllun yn ymdrin yn bennaf â’r materion hynny y mae angen dull gweithredu corfforaethol, ar draws cyfarwyddiaethau Cyngor, ar eu cyfer er mwyn cyflawni camau priodol. Mae’r materion hynny y gall gwasanaethau cymdeithasol yn unig fynd I’r afael â nhw’n cael eu trafod yn y cynllunniau gwasaneath ar gyfer pob un o’r Adrannau.

 

Mae saith maes blaenoriaeth yn y Cynllun:

 

·        Integreiddio Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IHSC);

·        Comisiynu (C)

·        Integreiddio gofal cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc (CYP)

·        Adnoddau Dynol (HR)

·        Gwybodaeth: defnyddio gwahanol sianeli a chyfryngau i wella mynediad i wybodaeth a gwasanaethau (IN)

·        Rheoli Adnoddau (RM); a

·        Cyd-gynhyrchu ac effaith ar gydraddoldeb (CPE).