Cost of Living Support Icon

Comisiynu 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynhyrchu Fframwaith Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae comisiynu yn weithgaredd hanfodol i'r Cyngor. Mae'n sicrhau ein bod yn gallu siapio gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion gofal cymdeithasol preswylwyr, nawr ac yn y dyfodol::

Strategaeth Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynhyrchu Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn.

 

Mae'r strategaeth yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn comisiynu gwasanaethau a gynlluniwyd i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i bobl hŷn ym Mro Morgannwg yn y saith mlynedd nesaf. Mae'n disgrifio ein bwriadau strategol yn ogystal â'r newidiadau y gobeithiwn eu gwneud ym mhatrwm gwasanaethau fel brocer effeithiol:

 

Strategaeth Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynhyrchu Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Mae'r strategaeth gomisiynu yn nodi sut y bydd anghenion gofal cymdeithasol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu diwallu o fewn yr adnoddau sydd ar gael i'r Cyngor yn ystod y cyfnod 2013 i 2018.