Cost of Living Support Icon

Y Cymin, Beach Road, Penarth

Cyfle am Brydles 99 Mylynedd. 

 

Dymuna Cyngor Bro Morgannwg wahodd cynigion gan bartïon â diddordeb mewn cymryd prydles 99 Mlynedd ar Y Cymin, Penarth.

 

O ystyried lleoliad yr eiddo a'r cyfleoedd y gallai eu cynnig i'w gymuned leol a chymuned ehangach Bro Morgannwg, rhoddir blaenoriaeth i'r defnyddiau hynny a nodwyd yn y Datganiad Cynllunio a geir yn Atodiad B, sy'n cynnwys:

  • Defnydd cymunedol priodol

  • Defnydd perthnasol i dwristiaeth

  • Defnydd priodol fel swddfa

 

 

Mae'r prif adeilad yn adeilad deulawr sy'n cynnwys cegin a thai bach ynghyd â nifer o ystafelloedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel ystafelloedd cyfarfod/swyddfeydd gyda golygfeydd ffafriol i'r de drwy’r Ffenestri Bae.  

 

Ystyrir Gerddi’r Cymin yn un o nifer o fannau agored pwysig yn Ardal Gadwraeth Penarth ac felly bwriedir cadw gweddill y tiroedd ym mherchnogaeth y Cyngor ar gyfer mynediad parhaus i'r cyhoedd. Nid yw Kymin House ei hun wedi'i restru, ond mae wedi'i nodi fel "Trysor Sirol".

 

Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddefnydd o'r Cymin a'i erddi yn y dyfodol yn parchu ei statws "Trysor Sirol", yn diogelu neu'n gwella Ardal Gadwraeth Penarth, ac yn sensitif i amwynder yr ardaloedd preswyl cyfagos.

 

 

 

Am wybodaeth bellach gweler y Briff Marchnata:

 

Briff Marchnata

 

Cyflwyno Cais:

Y dyddiad cau cwbl bendant ar gyfer cyflwyno ceisiadau tendr yw 12 hanner dydd ar Ddydd Gwener 9 Ebrill 2021

Cysylltwch:

Ben Winstanley, Strategic Estates Manager
Vale of Glamorgan Council
Civic Offices
Holton Road
Barry
CF63 4RU

 

  • 01446 709176