Canmoliaeth i Gyngor Bro Morgannwg gan Swyddfa Archwilio Cymru
03 Awst 2017
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael rhagor o adborth cadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer 2016/17.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno casgliadau sawl arolwg yn ystod y flwyddyn ac mae'n tystio i berfformiad boddhaol y Cyngor mewn sawl agwedd.
Daeth yr adroddiad diweddaraf, a asesodd sut y mae’r Cyngor yn rheoli'r newidiadau mawr i'w wasanaethau, i’r casgliad bod gan y Cyngor “fframwaith corfforaethol clir i bennu a chyflawni newidiadau i wasanaethau a threfniadau effeithiol i gynnal y gwaith newid."
Canmolodd raglen Ail-lunio Gwasanaethau’r Cyngor, gan ddweud ei bod yn ei gwneud yn bosibl rheoli'r newidiadau'n effeithiol. Dywedodd hefyd y bu gwaith effeithiol rhwng y Cabinet ac uwch reolwyr, gan gydnabod yr amrediad o waith ymgysylltu a hyfforddiant.
Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad Asesu Corfforaethol 2016 SAC, a werthusodd allu’r awdurdod i gynnal gwelliannau parhaus.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod gan Gyngor y Fro “weledigaeth glir ynghylch yr hyn y mae eisiau ei gyflawni ac mae'n
gwneud newidiadau cadarnhaol ddylai sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwelliannau hyn”.
Ymhlith meysydd a gafodd ganmoliaeth oedd:
- Gweledigaeth glir y Cyngor.
- Arweinyddiaeth effeithiol sy’n cefnogi’r agenda o newid.
- Gwella trefniadau rheoli perfformiad.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn datgelu bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran mynd i’r afael â'r pum cynnig i wella a bennwyd yn rhan o’r Asesiad Corfforaethol.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:
“Mae’n rhoi boddhad mawr cael rhagor o adborth sydd mor gadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd canfyddiadau eu hasesiad blaenorol yn ein calonogi’n fawr, ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn profi bod Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i gyflawni safonau uchel o arweinyddiaeth a gwasanaethau.
“Ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Y nod nawr yw parhau i wella ac mae hynny'n her rydym yn ei chroesawu."