Cost of Living Support Icon

Y cyngor yn cytuno ar wasanaeth camerau cylch cyfyng gwell i'r Fro

 

04 Gorffennaf 2017

Cllr Parker at CCTV CR

 

Bydd rhagor o gamerâu cylch cyfyng ym Mro Morgannwg yn rhan o wasanaeth gwell y cytunodd y Cyngor arno'r wythnos hon.

 

Ers Ebrill 2016, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi darparu gwasanaeth monitro camerâu cylch cyfyng ledled y Fro a Phen-y-bont ar Ogwr yn rhan o gytundeb partneriaeth arloesol. 

 

Mae 77 o gamerâu ledled Bro Morgannwg ac mae pob un ohonyn nhw’n ffilmio am 24 awr bob dydd.

 

Mae modd rheoli’r camerâu o bell ac mae staff yng nghanolfan rheoli Pen-y-bont ar Ogwr yn eu monitro bob dydd o'r flwyddyn. 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg bellach wedi penderfynu cynyddu nifer yr oriau y mae camerâu yn y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr yn cael eu monitro, a rhoi trefniadau cynnal a chadw newydd ar waith. Bydd y rhain yn sicrhau bod unrhyw nam ar gamerâu allweddol yn cael ei atgyweirio ar unwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Tai ac Adeiladu:  “Calon ein cymunedau yw canol trefi’r Fro ac rydyn ni am wneud yn siŵr bod pob un o’n trigolion a’n hymwelwyr yn teimlo’n ddiogel pan fyddan nhw’n ymweld.

 

“Mae camerâu cylch cyfyng yn offer allweddol i ni gyflawni hynny ac mae’r cabinet wedi cytuno ar drefniadau monitro gwell a fydd yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r dechnoleg yn y modd mwyaf effeithiol bosibl. 

 

Bydd ein tîm diogelwch cymunedol yn adolygu adroddiadau perfformiad misol er mwyn i ni fod yn siŵr bod y mannau iawn yn cael eu targedu.”

 

Bydd newidiadau i drefniadau monitro’n dod i rym ar unwaith.