Cost of Living Support Icon

Ymweliad y Maer ag Ysgol y Deri

 

Monday 10 July 2017

 

Roedd Ei Theilyngdod y Maer, y Cynghorydd Janice Charles, Bro Morgannwg yn hapus dros ben i gael gwahoddiad gan Grŵp Arlwyo a Lletygarwch Ysgol y Deri, Penarth i ymuno â nhw ar gyfer eu digwyddiad Big Lunch ar ddydd Mercher 14 Mehefin(digwyddiad a gynhelir gan The Eden Project ledled y DU).

 

Roedd y Maer yn gwerthfawrogi clywed sut aeth y grŵp ati i ddysgu ac ymarfer sgiliau coginio newydd drwy gydol y flwyddyn a dywedodd

 

"Gwnes i fwynhau rhannu fy nghinio yn fawr iawn ... roedd y bwyd yn flasus dros ben ac yn glod i bawb o'r grŵp Arlwyo a Lletygarwch yn Ysgol y Deri".

 

Testun Blwyddyn Faerol y Maer yw Gwasanaethu’r Gymuned.Gwahoddir unrhyw sefydliad cymunedol ym Mro Morgannwg i gysylltu â’r Maer drwy TMayor@valeofglamorgan.gov.uki drefnu ymweliad â Pharlwr y Maer.