Digwyddiad triathlon bach yn codi arian i helpu canolfan ddydd leol
05 Gorffennaf 2017
Cafodd mwy na £2, 200 ei godi gan elusen sy’n helpu trigolion ag anableddau corfforol ym Mro Morgannwg.

Cododd cynghrair cyfeillion Hen Goleg – elusen ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg – arian ar gyfer Gwasanaeth Dydd New Horizons drwy gynnal ei hail ddigwyddiad codi arian, y Triathlon Bach. Cyflawnodd y sawl a gymerodd ran bellter o 736 o gilomedrau yn y broses.
Nod y ras oedd i’r rhai a gymerodd rhan – ar y cyd- deithio’r 686 o gilomedrau rhwng Y Barri a Fécamp (Ffrainc), un o efeilldrefi’r Fro. Gwnaeth y cystadleuwyr hyn drwy nofio, beicio, rhedeg a cherdded.
Drwy chwalu’r pellter targed, mae'r cyfranogwyr wedi sicrhau y caiff arian ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i gleientiaid y ganolfan ddydd.
Cafodd y digwyddiad ei rhannu’n ddau, ac roedd cyfnod o bythefnos ym mis Mehefin yn agored i gleientiaid Canolfan Ddydd New Horizons.
Gan herio’r syniad traddodiadol o driathlon, roedd yr adran hon o’r digwyddiad codi arian yn galluogi’r sawl a gymerodd ran i gyfrannu at y pellter llawn drwy gymryd rhan mewn un, dwy neu dair elfen o'r triathlon.
Cwblhaodd y cleientiaid eu helfennau beicio a cherdded yng nghampfa’r ganolfan ddydd drwy ddefnyddio offer arbenigol a brynwyd gyda'r arian o’r digwyddiad y llynedd, a bu sesiynau nofio â chymorth yng Nghanolfan Hamdden y Barri.
Roedd ymdrechion gwych gan nifer o’r cleientiaid. Nofiodd Helen am y tro cyntaf ers cael strôc yn 2012, cwblhaodd Rob 24 tro ar hyd y pwll ac yntau wedi colli rhan o’i gorff, a bu Jackie yn rhan ohono, sydd â chyflyrau'r galon a’r asgwrn cefn ac yn dilyn dysgu nofio’r llynedd. Diolch i’r ymdrechion hyn roedd y sawl a gymerodd ran yn llwyddo i gyflawni eu targed.
12 o gyflogeion Cyngor Bro Morgannwg a chyfeillion y ganolfan dydd a aeth i’r afael ag ail ran y digwyddiad codi arian ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn. Roedd y ras yn cynnwys nofio am 500 metr, beicio am 5 cilomedr a rhedeg am 5 cilomedr. Yn ogystal â hynny, aeth cleientiaid y ganolfan ddydd ar daith gerdded grŵp.
Digwyddodd yr elfen nofio yng Nghanolfan Hamdden y Barri, a chafodd yr elfennau beicio a rhedeg, a’r daith gerdded mewn grŵp eu cynnal ar hyd Ffordd y Mileniwm.
Ymgymerodd 34 o bobl â’r daith gerdded mewn grŵp, gan gynnwys cleientiaid o’r ganolfan ddydd, a ffrindiau gydag anableddau dysgu a staff o’r Cyngor. Sylwodd Mark Roderich, sy'n gleient o New Horizons fod “pawb wedi camu i’r adwy er mwyn gwneud ei ran gyda’r brwdfrydedd rydych yn ei ddisgwyl gan New Horizons” er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn “fwy ac yn well nag un y llynedd".
Agorodd Maer Bro Morgannwg, Y Cynghorydd Janice Charles, y digwyddiadau nofio a rhedeg a dywedodd: “Gwneir gwaith ardderchog yn New Horizons. Heb os, mae’r rhai sy’n gweithio yn y ganolfan ddydd yn arwyr, ac yn gwneud y gwaith mwyaf anhygoel - gan roi gobaith, urddas, cryfder a bywyd gwell yn ôl i bobl.
“Roedd yn anrhydedd i mi gymryd rhan yn agoriad eu digwyddiad codi arian diweddaraf, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm eto yn y dyfodol.”
Dywedodd Linda Ruston, sy’n gweithio yng Nghanolfan ddydd New Horizons: “Oherwydd y digwyddiad, gwnaeth bawb gydweithio i gyflawni'r pellter a gafodd ei bennu. Rydym yn bwriadu ei drefnu eto y flwyddyn nesaf, am y trydydd tro ac efallai y bydd hyd yn oed yn ddigwyddiad blynyddol!
“Eto roedd y digwyddiad cyfan yn llwyddiant ysgubol, a chwalodd nifer o’r cystadleuwyr eu targedau unigol.
“Er mai prif nod y digwyddiad yw codi arian er mwyn gwella'r cyfleusterau sydd ar gael yn y ganolfan ddydd, mae’n hollbwysig bod pobl yn cymryd rhan i ateb yr her ac i deimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth a gwella eu lles.
“Diolch yn fawr iawn i chwe chwmni lleol – cwmni Llogi Peirannau GRABit, Adeiladwyr Cyffredinol Stokes, Woodland Electricals, D & M Mechanical Engineers Ltd, Travis Perkins Ltd a Pinit Building an Civil Engineering – a roddodd nawdd i ni o £500."
Caiff pobl roddi i’r achos o hyd drwy ymweld â www.gofundme.com/newhorizonsminitriathlon.