Cost of Living Support Icon

Rhybudd Diogelwch i’r Cyhoedd – Trwyn y Rhws

Hoffem rybuddio trigolion ac ymwelwyr i Fro Morgannwg am y peryglon difrifol ynghlwm wrth nofio a neidio i mewn i’r Lagwnau yn Nhrwyn y Rhws.

 

Yn ogystal â’r risg o anafiadau difrifol neu hyd yn oed marwolaeth sydd ynghlwm wrth nofio neu neidio i mewn i ddyfroedd oer yr ardal chwarel segur hon, rheolir yr ardal gan is-ddeddf sy’n gwahardd gweithgarwch o’r fath yn llwyr. 

 

Rhoose-Point-Aerial-View

Gallai unrhyw un a welir yn torri’r is-ddeddf hon wynebu cosb yn y fan a‘r lle o £75 neu gael ei erlyn trwy’r Llysoedd. 

 

Yng ngoleuni gweithgarwch diweddar yn yr ardal mae'r Cyngor, mewn partneriaeth â'i bartneriaid diogelwch preifat a'r heddlu, wedi cynyddu ei weithgarwch gorfodi ac ni fydd yn oedi rhag rhoi dirwy neu erlyn unrhyw berson y gwelir ei fod yn torri'r is-ddeddf.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Is-ddeddfau Trwyn y Rhws

Is-ddeddfau a wnaed o dan adrannau 12 a 15 Deddf Mannau Agored 1906 gan Gyngor Bro Morgannwg mewn perthynas â man agored cyhoeddus yn  Nhrwyn y Rhws ym Mro Morgannwg.