Cost of Living Support Icon

 

Mam o’r Barri’n canmol datblygiad Tai Cyngor Bro Morgannwg

Mae mam o’r Barri wedi cael ei “chartref delfrydol” yn dilyn datblygiad Cyngor Bro Morgannwg sydd wedi costio bron i £500,000.

 

  • Dydd Gwener, 17 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Gwariodd y Cyngor £497,000 ar adeiladu tri byngalo gyda’i bartner datblygu LBC Construction yn Gibbonsdown, sydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl anabl.

 

Mae pob un yn bodloni safonau hygyrchedd Cartrefi Oes, tra bod gan ddau goridorau llydan iawn i fynediad cadeiriau olwyn yn ogystal ag addasiadau i’r rhai ag anghenion ychwanegol.

 

 

 Bungalow home

 

Cawsant eu codi gan y Cyngor rhwng Chwefror a Medi eleni a’r cynllun yw dal ati i godi eiddo o fath tebyg yn y dyfodol.

 

Mae pedwar byngalo ychwanegol a thŷ wedi’i addasu eisoes ar y gweill, gyda'r nod o greu cymuned gynaliadwy ehangach.

 

Roedd Steff Chichester ar y rhestr aros ar gyfer Cartrefi Hygyrch ac, ynghyd â’i gŵr Lewis a’i mab 18 mis oes Ezra, symudodd i mewn i’w heiddo newydd yn ddiweddar.

 

Wedi dioddef Osteogenesis Imperfecta ers plentyndod, mae esgyrn Steff yn torri’n hawdd ac mae hi wedi cael llawdriniaethau niferus i gywiro’r niwed.

 

O ganlyniad, mae hi’n defnyddio cadair olwyn rhywfaint o’r amser.

 

Dywedodd Steff: “Symudon ni i mewn ar 18 medi ac roedd yn anhygoel.  Roedd yn ganfas gwbl wag oedd yn wych ac roedd yr ystafell ymolchi wedi'i haddasu'n arbennig i mi

 

“Mae cymaint o le i symud o gwmpas y gegin yn y gadair olwyn felly rydym yn lwcus. Dwi’n teimlo’n ffodus.

 

“Mae wedi bod yn fwy na’n disgwyliadau.  Mae wedi bod yn wych.

 

“Pryd bynnag rydym wedi angen rhywbeth rydym wedi gallu cysylltu â’r Cyngor ac mae rhywun bob amser wedi bod wrth law. Mae’r adeiladwyr wedi bod yn wych hefyd.

 

“I ni fel teulu, mae wedi rhoi popeth i ni.  Mae wedi fy ngwneud yn fwy annibynnol oherwydd fy nghyflwr ac mae hynny wedi fy ngwneud yn fam well. Gallaf ofalu am Ezra'n well."

 

 

Wedi byw mewn tŷ nad oedd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer ei hanghenion yn y gorffennol, mae Steff yn cyfaddef bod bywyd bellach lawer yn haws.

 

“Roedd fy esgyrn o ddiwrnod un yn fregus iawn felly dechreuais dorri coesau cyn i fy gyrraedd fy mlwydd oed, yna parhaodd hynny trwy gydol fy mhlentyndod ac rwyf wedi gorfod cael llawer o lawdriniaethau cywiro,” meddai.

 

“Cefais lawdriniaeth cyn i ni symud i mewn ac roeddwn yn gallu defnyddio’r gadair olwyn o gwmpas yr eiddo i gyd.

 

“Mae gennym sinc y gellir ei addasu yn yr ystafell ymolchi felly os ydw i’n defnyddio’r gadair olwyn gallaf ei symud i lawr i frwsio fy nannedd. I rywun sydd wedi treulio llawer o’i fywyd yn ymdopi a gwneud y tro gyda phethau, mae bywyd wedi’i wneud cymaint symlach.

 

“Mae switshis y goleuadau’n isel felly nid oes angen i mi estyn.  Yn fy hen dŷ roedd yn rhaid imi ddefnyddio ffon. Mae popeth yma wedi fy ngwneud yn fwy annibynnol.

 

“Hyd yn oed pe baem ni wedi prynu tŷ,  fydden ni ddim wedi cael yr hyn sydd gennym yma, a’r gefnogaeth sydd i ni.  Mae'r drysau'n llydan a gallaf symud o gwmpas y cynteddau.

 

“Mae popeth mor eang ac mae wedi’i orffen yn dda iawn”

 

 

Steff and bungalow