Cost of Living Support Icon

 

Rhwydwaith crefftau newydd i arddangos talent ledled y Sir 

Mae rhwydwaith crefftau a ariennir trwy Gyngor Bro Morgannwg a Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 yn galw ar grefftwyr ym mhob rhan o’r Cyngor. 

 

  • Dydd Gwener, 17 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Mae Swyddog Datblygu Celfyddydau Cyngor Bro Morgannwg a Chymunedau Gwledig Creadigol wedi bod yn gweithio gyda nifer o ymarferwyr crefft sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen rhwydwaith.

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant:  “Mae’n wych gweld timau o adrannau gwahanol yn gweithio ynghyd i gynnig ystod o gymorth ar gyfer cymunedau a busnesau ledled y Fro.

 

“Rydym wrthi’n archwilio ffyrdd newydd o ddatblygu celf a diwylliant, ac mae’r digwyddiad hwn yn rhoi platfform delfrydol i ni i hybu celf trwy gyfryngau amrywiol, ac rwy’n annog unrhyw sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y digwyddiad rhwydweithio.”

 

Cynhelir digwyddiad rhwydweithio am ddim, yn galluogi pobl i gydweithredu ac archwilio cyfleoedd, yn Ystafelloedd Te Gerddi Dyffryn, yn Sain Nicolas, ddydd Iau 30 Tachwedd o 6pm.  

 

 

Dywedodd Swyddog Cymunedau Gwledig Creadigol Nicola Sumner-Smith: “Credon ni fod hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi'r gwaith o ddatblygu crefft yn y Fro wrth dynnu sylw at y dalent wych sydd gennym yma.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd ymarferwyr crefft o ystod eang o ddisgyblaethau a phrofiad yn dod ac yn meddwl bod y rhwydwaith yn adnodd gwerthfawr ar gyfer eu datblygu proffesiynol a phersonol.”

 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost neu gallwch gadarnhau eich bod yn dod ar dudalen ddigwyddiadau Facebook o’r enw ‘Cymunedau Gwledig Creadigol’.  

 

Am fwy o wybodaeth, gallwch ffonio’r tîm Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd ar 01446 704704.

 Paintbrushes1