Cost of Living Support Icon

 

Cyflogeion y Fro yn cymryd rhan mewn ras parc at y Banc Bwyd 

Bydd Ynys y Barri’n cynnal ras parc 5k am ddim at Fanc Bwyd y Fro y mis nesaf. 

 

  • Dydd Mawrth, 21 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Gan ddechrau wrth gabanau’r traeth ar y Promenâd, anogir rhedwyr i wisgo fel eitemau bwyd i redeg cwrs 2k neu 5k o gwmpas yr ynys ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.

 

 

Bananama2

Bydd y Swyddog dros Fuddsoddi Cymunedol a Chyfranogiad, Mark Ellis, a thîm yn rhedeg y ras 5k wedi gwisgo mewn gwisgoedd ffrwythau a llysiau.

 

 

Meddai Mark Ellis: “Rydyn ni’n trefnu’r ras i godi ymwybyddiaeth am y banc bwyd, a gwneud ymdrech arbennig ar gyfer yr achos. Byddai’n wych gweld teuluoedd yno a gall pobl gerdded, rhedeg neu loncian ar hyd y cwrs 5k.”

 

Mae bwyd banc y Fro yn Tennyson Road, Colcot, yn sefydliad elusennol dielw sy’n dosbarthu bwyd i’r bobl sy’n cael trafferth prynu digon o fwyd i osgoi newyn.

 

Mae chwe chanolfan ledled y Fro lle gall pobl adael pecynnau bwyd. 

 

Gofynnir i redwyr y ras ddod ag eitemau bwyd i’w cyfrannu ar y diwrnod, y gellir eu rhoi mewn blwch cyfrannu ar ddiwedd y ras.

 

Mae’r ras ar agor i bobl o bob oedran a gallu a chaiff y rhedwyr eu hamseru.

 

 

Am fwy o wybodaeth am y ras neu i gyfrannu eitemau at y banc bwyd, ffoniwch Mark Ellis ar 07826 020707.

 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am rasys parc ar Ynys y Barri ar y dudalen Facebook.