Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi mai Pentref Adloniant yw’r cynnig diweddaraf ar gyfer Ardal Arloesi Glannau’r Barri

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu ei gynlluniau diweddaraf ar gyfer Ardal Arloesi Glannau’r Barri, sy’n cynnwys creu pentref adloniant yn cynnwys ystod o gaffis a barrau undydd.s. 

 

  • Dydd Iau, 30 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg


 

 

Mewn hen uned storio’r rheilffordd ar Hood Road, sef Gwalia Buildings, byddai’r project yn cynnwys troi’r adeilad hanesyddol o’r 1880au, y Sied Nwyddau, yn gymuned o fusnesau bychain, lleol yn masnachu o gynwysyddion morio wedi eu haddasu.


IQ2DS Properties, sydd hefyd y tu cefn i ailddatblygiad penigamp y Pumphouse gerllaw, sydd wedi cyflwyno'r cynnig cyffrous hwn, a fydd y nodwedd ddiweddaraf yn yr ardal hon ar ei newydd wedd yn y Barri, os caiff ganiatâd cynllunio.


Mae’r bwyty steil de'r unol daleithiau, Hang Fire, a'r bar espresso arbenigol, Academy, eisoes yn y Pumphouse 260 oed dros y ffordd i safle posibl y Sied Nwyddau, ac mae gwesty Premier Inn a champfa Snap Fitness ymhlith y busnesau sydd wedi mynegi diddordeb yn yr Ardal Arloesi.

 

Gwnaeth asiantau JLL farchnata’r adeilad a gaiff ei adnewyddu dros yr haf ac mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i wireddu’r cynllun hwn.

 

Bydd rhagor o fanylion am y project yn dilyn a bydd ymgynghoriad llawn â’r gymuned leol cyn i unrhyw ddatblygiadau fynd rhagddynt. Mae JLL hefyd yn marchnata Datblygiad Deheuol yr Ardal Arloesi, 2.8 erw o faint, ac mae’r Cyngor yn gwahodd cynigion arloesol eraill a fyddai’n cyd-fynd â naws y ganolfan fasnachol hon sy’n ehangu.

 

Mae’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn chwilio am syniadau datblygu o safon, a allai barhau i sbarduno adfywio’r cyn safle diwydiannol amlwg hwn.


IQ1Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: “Rydyn ni’n credu y gall y Sied Nwyddau a datblygu’r safle cysylltiedig roi hwb pellach i’r gymuned fusnes lewyrchus sydd wedi ei meithrin ar Lannau’r Dŵr yn y Barri a dod â budd sylweddol i’r economi leol.


“Nawr, mae gennym ni gyfle i adnewyddu adeilad hanesyddol arall, a dyma enghraifft diweddaraf ymrwymiad y Cyngor i adfywio ehangach yn y Barri.


“Mae'r ailddatblygu hynod lwyddiannus ar adeilad y Pumphouse yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael yn yr Ardal Arloesi ar gyfer datblygwyr uchelgeisiol a bydd y Cyngor yn parhau i wneud y cwbl y gallai ei wneud i ddenu’r cwmnïau mwyaf cyffrous i’r lleoliad.”