Cost of Living Support Icon

 

Ethol Maer Ieuenctid Bro Morgannwg 2017

Bwriodd pobl ifanc y Fro eu pleidlais dros eu pedwerydd Maer Ieuenctid i gynrychioli’r sir yn ystod y flwyddyn nesaf.


Cafodd yr etholiadau eu cynnal o Ddydd Llun 9 Hydref tan Ddydd Gwener 13 Hydref yn ystod Wythnos Democratiaeth Leol.

 

Gyda chyfanswm o 4766 pleidlais, etholwyd Niclas Want sy'n 18 oed o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn Faer Ieuenctid yn y cyfarfod urddo ddydd Llun 16 Hydref.

 

Ail-etholwyd y myfyriwr o Ysgol Gyfun y Barri, Daley Chapman, 16 oed, i’r post Dirprwy Faer Ieuenctid am y flwyddyn. 

 

 

"Mae wedi bod yn wych gweld cynifer yn bwrw pleidlais, a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y bleidlais.  Dw i’n llawn cyffro i weithio gyda’r Cyngor a phobl ifanc ledled y Fro yn ystod y flwyddyn nesaf.”

  - Niclas Want, Faer Ieuenctid eleni.

 

Nod yr etholiad yw sicrhau bod pobl ifanc yn fwy ymwybodol o’u cyngor lleol a’u hannog i ddweud eu dweud am eu cymunedau lleol. 

 

Mae pleidleisio dros Faer Ieuenctid a fydd yn llais i bobl ifanc yn un ffordd o gyflawni hynny.    

 

 

“Dw i’n hapus i gael fy ail-ethol, a chyda nifer y pleidleisiau sydd wedi’u bwrw eleni.  Dw i’n edrych ymlaen at gael ymweld â phobl ifanc ledled y Fro a gwrando ar eu barn.” -  Dirprwy Faer Ieuenctid, Daley Chapman

    Vale youth Mayor

Gwnaed y cyhoeddiad gan y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Dirprwy Faer y Fro, y Cynghorydd Leighton Rowlands.

 

 

Dywedodd Cyng Leighton Rowlands, Dirprwy Faer ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg: “Mae bod yn rhan o’r cabinet ieuenctid yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu mwy am sut mae’r cyngor yn gweithio, ac i weithredu fel llais i bobl ifanc eraill ar draws y sir.

 

“Rwy’n siwr bydd Niclas a Daley yn gweithio’n galed a hoffwn dymuno pob lwc i’r ddau wrth iddyn nhw cychwyn yn eu rolau newydd.”

 

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am waith y Maer Ieuenctid, a’r Cabinet Ieuenctid, ledled y Fro, ewch i http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/youth_service/Youth-Participation/