Cost of Living Support Icon

 

Cam olaf gwelliannau Gerddi Gladstone 

Mae cam olaf y gwaith o wella cyfleusterau Gerddi Gladstone yn dechrau’r wythnos hon.  

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Medi 2017

    Barri



Bydd y gwaith yn cynnwys gosod rheiliau newydd, llwybrau troed a gwella’r mynediad i'r gerddi, yn ogystal â glanhau'r pwll a phlannu bylbiau gwanwyn a choed ychwanegol.

New outdoor gym in Gladstone Gardens

 

Y gwelliannau hyn yw’r cam olaf y project sylweddol i adfer Gerddi Gladstone uchaf ac isaf yn y Barri, sydd wedi cynnwys gosod ardal chwarae newydd, offer campfa awyr agored ac ardal gemau aml-ddefnydd.

 

 

Mae’r waliau balwstrad sy’n amgylchynu’r parc wedi cael eu hadfer fel rhan o’r project hwn hefyd. 

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi mwy na £400,000 i wella’r parc poblogaidd hwn, sydd bellach yn cynnwys yr ardal awyr agored actif fwyaf ym Mhrydain.

 

 

"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion, ysgolion cyfagos ac ymwelwyr â’r ardal yn cael budd o’r cyfleusterau hyn sydd wedi’u huwchraddio.

 

“Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i hybu iechyd a lles trigolion, ac mae sicrhau bod mannau agored o safon wrth law yn ffactor bwysig yn y gwaith o sicrhau ffordd o fyw iach.”

 

- Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden.

 

 

Yn ystod y cyfnod olaf hwn, bydd rhannau o’r parc ar gau dros dro a chaiff cerddwyr eu dargyfeirio. 

Disgwylir i’r gwaith bara 12 wythnos.