Cost of Living Support Icon

 

Cynigion ar gyfer ffordd gyswllt newydd o yr M4 i yr A48 i gael eu datgelu mis hwn

Caiff dau lwybr posibl ar gyfer ffordd newydd yn cysylltu’r A48 â chyffordd 34 yr M4 eu datgelu 17 Ebrill yn rhan o gynllun a fydd hefyd yn cynnwys gorsaf drenau a chyfleuster parcio a theithio newydd.

 

  • Dydd Gwener, 06 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg

    Barri

    Rural Vale



Caiff y llwybrau eu cyhoeddi yn rhan o ganfyddiadau drafft astudiaeth ddiweddar a wnaed ar ran Cyngor Bro Morgannwg gan ymgynghorydd allanol technegol annibynnol sef Arcadis Consulting (UK) Limited.


Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau er mwyn ceisio sylwadau ar ganfyddiadau’r adroddiad ac ar bob un o’r llwybrau arfaethedig gan drigolion a busnesau lleol, awdurdodau lleol cymdogol, cynghorau cymuned a phartïon â diddordeb eraill. 

 

Civic

Gall aelodau o’r cyhoedd edrych ar y cynlluniau a chyflwyno eu sylwadau ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk ac mewn dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus:


• 17 Ebrill 2018, Gwesty Bro Morgannwg, Ystafell Trecastle, Parc Hensol, Hensol, CF72 8JY, 12pm tan 7pm (sesiwn galw heibio)


• 18 Ebrill 2018 Clwb Golff Parc Cottrell, the Marquee, Sain Nicolas, Gwenfô, CF5 6SJ, 10am tan 5pm (sesiwn galw heibio) 
Ar ôl y ddau ddigwyddiad yma caiff y cynlluniau eu harddangos mewn adeiladau’r Cyngor. 
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 18 Mai 2018. 

 

Comisiynwyd Arcadis Consulting (UK) Limited gan y Cyngor i ddatblygu a gwerthuso dewisiadau posibl ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth o'r M4 i'r A48 yn 2017. 


Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli ail gam proses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol i ddatblygu a gwerthuso cynigion a fyddai’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r ail gam hwn yn troi o gylch creu achos busnes amlinellol ar gyfer ffordd newydd, y caiff ei ganfyddiadau eu cynnwys yn yr adroddiad.


Cytunwyd ar adroddiad cam un gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2017.