Cost of Living Support Icon

 

Siop flodau yng nghanol tref y Barri’n ennill Gwobr Arloesedd a Rhagoriaeth

Mae perchennog siop flodau yng nghanol tref y Barri wedi ennill Gwobr Arloesedd a Rhagoriaeth wrth i’w busnes barhau i ffynnu.

 

  • Dydd Mercher, 19 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Wendy, florist

Mae Wendy O’Connor yn rheolwr Siop Flodau Bluebells ar Thompson Street ac mae wedi cael y gydnabyddiaeth am ddangos blaengaredd yn ei maes.

A hithau’n oes siopa ar-lein, mae siop Ms O’Connor yn enghraifft o un sy’n perfformio’n dda yng nghanol y dref.

Mae’r Cyngor yn ymwneud ag amrywiaeth o fentrau sydd â’r nod o hyrwyddo’r Barri a chanol trefi eraill ledled y Fro mewn ymdrech i gynnal yr ardaloedd hyn yn lleoliadau manwerthu bywiog.

Cynhaliwyd y digwyddiad cynnau goleuadau Nadolig blynyddol yn ddiweddar, gyda marchnad llawn anrhegion posib ynghyd â bwyd a diod, a’r Nadolig hwn daeth sinema awyr agored i Central Park.

 “Mae busnes yn dda iawn yma. Mae’r adborth gan gwsmeriaid yn wych,” meddai Ms O’Connor.

 “Mae’r Cyngor yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau yng nghanol y dref trwy gydol y flwyddyn ac mae’n ceisio gweithio gyda masnachwyr i hybu busnes.

 “Roedd y digwyddiad cynnau goleuadau Nadolig yn dda iawn i ni. Arhoson ni ar agor ychydig yn hwyrach oherwydd bod y masnachu’n ardderchog. Mae’r holl ddigwyddiadau hyn yn helpu ac mae hefyd yn helpu os yw pob masnachwr yn cymryd rhan. Yna gallwn ni helpu ein gilydd.”

 

 

Wendy, Bluebells Florist


Mae’r Cyngor yn awyddus i berchnogion siopau gydweithio tuag at nod cyffredin o wella canol y dref ac mae wedi cefnogi creu grŵp masnachwyr.

Mae posibilrwydd hefyd o sefydlu Ardal Gwella Busnes yn y Barri, gyda masnachwyr yn ystyried a yw hyn yn rhywbeth yr hoffen nhw ei wneud.

 “Yn y cyfarfod diwethaf am yr AGB bues i ynddo, rhoddodd y dyn yno esboniad da iawn o’r cysyniad ac roedd yn llawer haws i mi ei ddeall ar ôl hynny,” ychwanegodd Ms O’Connor.

 “Roeddwn yn meddwl ei bod o leiaf yn werth cael gwybod am yr hyn sy’n digwydd ac yna penderfynu a fydd yn helpu’r dref.

 “Rwy’n bendant yn meddwl ei bod yn werth rhoi cynnig ar yr Ardal Gwella Busnes – mae hynny’n wir am unrhyw beth a allai helpu busnes.”