Cost of Living Support Icon

 

Cinio Nadolig llwyddiannus Canolfan gymunedol Castleland 

Daeth 32 o drigolion ynghyd i fwynhau cinio Nadolig Canolfan Gymunedol Castleland eleni.

 

  • Dydd Mercher, 12 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Arweiniodd Rheolwr Canolfan Gymunedol Castleland, Helen Jones, dîm o wirfoddolwyr, a gynlluniodd ac a baratôdd y digwyddiad ar ddydd Gwener 7 Rhagfyr.

 

Diolchodd y tîm i Tesco, Morrisons a Greggs am eu rhoddion caredig at y cinio. 

 

Cafwyd adloniant hyfryd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc Jenner, yn canu carolau Nadolig ac annog y gynulleidfa i ymuno.

 

 

Roedd y bingo, y cwis a’r raffl hefyd yn hwyl mawr gyda gwobrau gwych yn cael eu rhoi gan fusnesau lleol, yr hoffai’r Ganolfan ddiolch iddynt hwythau hefyd.

 

Residents at Castleland community centre

 

 

Dywedodd Helen Jones: “Mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant y Ganolfan, gyda blwyddyn gynhyrchiol arall wedi bod, gan wneud y ganolfan yn ased gwych i'r gymuned.

Mae ystod enfawr o ddosbarthiadau a gweithgareddau ar gael ac mae grwpiau defnyddwyr newydd yn cofrestru o hyd.”

 

“Roedd yn wych gweld y gymuned yn ein cefnogi, roedd yr adborth yn dda iawn ar y bwyd, y gwasanaeth a’r adloniant ac edrychai pawb ymlaen at y flwyddyn nesaf.”

 

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu ddefnyddio’r ganolfan ffoniwch 01446 701285.

 

 

 

Jenner Park Primary School pupils