Cost of Living Support Icon

 

Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng cymraeg newydd gwerth £7.4m i'r Barri

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei fwriad i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gwerth £7.4m yn y Barri, gyda chapasiti ar gyfer 420 o ddisgyblion yr ysgol a 96 o leoedd meithrin.

 

  • Dydd Mercher, 12 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Ddydd Llun, bydd gofyn i Gabinet y Cyngor gymeradwyo cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar gynnig a fyddai'n gweld ysgol Sant Baruc, sydd â chapasiti ar gyfer 210 o blant ar hyn o bryd, yn symud i adeilad newydd sbon sydd â lle i fwy na dwbl y rhif hwn.

 

Mae'r galw am addysg ddwyieithog yn y Barri wedi cynyddu mwy na chwarter yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Mae rhagamcaniadau presennol yn awgrymu y bydd datblygiad parhaus Glannau'r Barri yn ychwanegu at y galw hwn ymhellach.

 

Rhagwelir hefyd y bydd strategaeth y Cyngor i hyrwyddo addysg ddwyieithog yn unol ag agenda 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymhellach y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu mewn poblogrwydd ac wedi gweld twf sylweddol ers i ysgol Gymraeg

Bro Morgannwg agor yn 2000. Mae angen i'r Cyngor gynllunio ei ddarpariaeth ysgol yn unol

â hyn.

 

"Bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar y Glannau yn dileu'r angen i lawer o ddisgyblion a rhieni deithio ar draws y dref i'r ysgol bob dydd. Yn ogystal ag ailfodelu dalgylchoedd ysgolion mewn mannau eraill yn y Barri, bydd hyn yn arwain at gynnydd

mewn lleoedd mewn ysgolion eraill."

 

Mae'r Ysgol Sant Baruc bresennol yn gweithredu o adeilad Fictoraidd a bloc dau ddosbarth wedi ei adeiladu yn y 1980au. Mae'r ysgol ar safle cyfyngedig iawn ar oleddf heb unrhyw obaith y caiff ei hehangu'n sylweddol. Mae'r ystafelloedd dosbarth yn rhy fach ar gyfer nifer y disgyblion ac ar hyn o bryd mae'r ysgol yn defnyddio'r cyfleusterau bwyta yn Ysgol Gynradd Stryd Fawr gerllaw gan nad oes cyfleusterau arlwyo ar y safle.

 

Mae sefydlu ysgol gynradd newydd ar y Glannau’n debygol o arwain at newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cynradd y Stryd Fawr, Holltwn ac Ysgol Sant Baruc.

 

Os bydd y cabinet yn cytuno ar argymhellion yr adroddiad ar 17 Rhagfyr, bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau rhwng 8 Ionawr 2019 a 22 Chwefror 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: "Mae'r ysgol newydd ar y Glannau yn elfen allweddol o raglen

'Band B' gwerth £143 miliwn y Cyngor, sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi nifer o ysgolion newydd ac ysgolion wedi'u hailfodelu ym Mro Morgannwg.

 

"Yn y Barri, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith i ddarparu tair ysgol uwchradd gymysg

eu rhyw, sef, Ysgol Uwchradd Whitmore, Ysgol Uwchradd Pencoedtre ac Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, sydd i gyd yn elwa naill ai ar adeiladau ysgol newydd neu ailfodelu helaeth ar

gost o tua £70 miliwn.

 

Mae'r Cyngor yn falch o fod â rhaglen mor uchelgeisiol, sy'n cynnig darparu ysgolion

newydd 21ain ganrif ledled Bro Morgannwg, gan gynnwys cymunedau'r Bont-faen, 

Colwinston, y Rhws, Sain Nicolas a Phenarth. Mae hyn yn rhoi tystiolaeth gadarn o

ymrwymiad y Cyngor i ddysgu disgyblion yn y dyfodol."