Cost of Living Support Icon

 

Grŵp Achub y Sili a Larnog yn Rhoi Diffibriliwr i Lynnoedd Cosmeston

Mae aelodau o Grŵp Achub Sili a Larnog wedi rhoi diffibriliwr i Barc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, fel rhan o brosiect achub bywydau.

  • Dydd Llun, 10 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd Grŵp Achub Sili a’r Larnog ei sefydlu gan drigolion i wella ansawdd bywyd yn Sili a Larnog.

 

Cafodd y diffibriliwr ei gyflwyno gan Steve Thomas, Cadeirydd Grŵp Achub Sili a Larnog, ar ddydd Iau 29 Tachwedd.

 

Bydd y diffibriliwr ar gael i'r gymuned leol ac ymwelwyr y parc 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Diffibriliwr Llynnoedd Cosmeston yw'r un diweddaraf sydd wedi'i osod mewn prosiect achub bywydau gan y Grŵp Achub Sili a Larnog a neuadd yr hen ysgol yn Sili. Mae'r grŵp hefyd wedi gosod diffibrilwyr yn neuadd yr hen ysgol, y swyddfa bost a Llyfrgell Gymunedol Sili a Larnog.

 

 

 

 new defib at Cosmeston

 

 

 

Ychwanegodd Michael Garland, Cynghorydd Cymunedol dros Larnog: "Mae'n wych ein bod wedi gosod diffibriliwr yng Nghymuned Larnog o'r diwedd. Gall unrhyw un ddioddef trawiad ar y galon.

 

"Yn wir, mae 12 o bobl ifanc yn marw bob wythnos oherwydd trawiad sydyn ar y galon. Gall diffibriliwr sydd wedi'i leoli gerllaw helpu unrhyw un sydd wedi cael trawiad ar y galon yn ystod y tair munud gyntaf i gynyddu ei siawns o oroesi o 6% i 74%."

 

Mae’r grŵp eisoes wedi trefnu taith gerdded noddedig i godi arian i brynu dau ddifibrilwyr, un a osodwyd yn Neuadd y Jiwbilî, ac un a gaiff ei osod yn Larnog.

 

 

Gall rhif ffôn ar y casin gyfeirio defnyddwyr i'r gwasanaeth ambiwlans a fydd yn rhoi'r cod iddynt ddatgloi'r cabinet a defnyddio'r diffibriliwr.