Cost of Living Support Icon

 

Grwpiau cymunedol y Fro yn elwa o Gronfa Grant Sefydliad y Maer 

Mae cyfanswm o saith sefydliad y Fro wedi derbyn grantiau gan Gronfa Grant Sefydliad Maer Bro Morgannwg 2018/19.

 

  • Dydd Llun, 17 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Derbyniodd Bad Achub RNLI y Barri, Sgowtiaid Ardal Tir a Môr, Valeplus, Valeways a Chymdeithas Preswylwyr Tŷ Cadog £250 o gronfa grant y Maer.

 

Derbyniwyd £157 gan y Sefydliad Gwylio’r Glannau Cenedlaethol. 

 

Mae Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Cymuned Highlight Park yn cynnwys 16 cydlynydd stryd a derbyniwyd £243.00 gan y cynllun tuag at broject newydd.

 

Mae rheolwyr y cynllun am sefydlu “Paned Cymuned Highlight” a fyddai’n cwrdd yn y ganolfan gymuned bob pythefnos.

 

Meddai’r Dirprwy Gydlynydd Grŵp, Barbara Bowering a Chydlynydd Grŵp Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Highlight Park, Ada Finn: 

 

“Mae Highlight Park yn 2 filltir o dref y Barri a gall pobl deimlo’n ynysig yno.

 

“Ein nod yw estyn allan i ddynion a menywod yng nghymdogaethau Illtud a Dyfan, yn ogystal â Highlight Park.

 

“Ein nod yw helpu i gryfhau ysbryd cymunedol trwy gael gwared ar unigrwydd a lledaenu’r neges bod cymorth ar gael i bobl.”

 

Nod Cronfa Grant Sefydliad y Maer yw cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw ar gyfer costau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n cefnogi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cymunedau cryf â dyfodol disglair.  

 

Groups gaining from Mayors grant fund

 

 

 

Dywedodd Maer y Fro y Cynghorydd Leighton Rowlands: “Mae’n bleser gennyf gyflwyno grantiau o Gronfa Grant Sefydliad y Maer 2018/19 i’r grwpiau hyn. 

 

“Mae’n glir bod aelodau pob sefydliad yn gweithio’n galed ac wedi ymrwymo i’w hachos.

“Rwy’n credu bod cefnogi grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a sefydliadau nid er elw

ar draws y Fro yn allweddol, ac rwy’n hapus i gefnogi cymaint o grwpiau â phosibl, i sicrhau

eu bod yn parhau i ffynnu.”

 

Nod y gronfa yw rhoi help llaw i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw a all wneud cais am gyllid o rhwng £100 a £250 i hybu gwaith y sefydliadau hyn ym Mro Morgannwg, oherwydd y rhain yw sylfeini ein cymunedau.

 

Yr arian penodol sydd ar gael i’w ddyrannu bob blwyddyn fel rhan o’r cynllun grant hwn yw £5,000.

 

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech wneud cais am y cyllid hwn lawrlwythwch y ffurflen gais a’r nodiadau canllaw o’n gwefan, neu danfonwch  ebost i TheMayor@valeofglamorgan.gov.uk