Cost of Living Support Icon

 

Sinemau ym Mro Morgannwg yn Ymuno Gyda’i Gilydd ar Gyfer Digwyddiadau Ffilm Newydd 

Mae Vale Venues yn bartneriaeth newydd ddyfeisgar rhwng Canolfan Ffilm Cymru ac unarddeg o ganolfannau celfyddyd cymysg a sinemau cymunedol ar draws Bro Morgannwg.

  • Dydd Iau, 27 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg

 

 

Cinema seats

Fe fydd y lleoliadau yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo dangosiadau ffilm ym mhob un o’r unarddeg safle, gan roi’r cyfle gorau i gynulleidfaoedd gwledig i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eu tref neu bentref.

 

Fe fydd y prosiect, sy’n cael ei gydlynu gan Ganolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri, y sinema annibynnol fwyaf ym Mro Morgannwg, yn cael ei lansio gyda chyfres o ddangosiadau ffilm arbennig ar draws y rhwydwaith o sinemau yn gynnar yn 2019. 

 

Fe fydd Vale Venues a’r Memo yn cyflwyno gŵyl ffilmiau newydd sydd yn dathlu ffilm o dan y thema ‘Darganfod’ a fydd yn cynnwys dangosiadau a digwyddiadau ffilm.

 

Gan barhau or haf i’r Nadolig yn 2019, yr ŵyl ffilmiau newydd yma fydd y gyntaf o’i bath yn y wlad. 

 

“Mae sinema yn fyw yn y Fro, gydag amrywiaeth o gyrff profiadol yn cynnig gweithgareddau ffilm llawn dychymyg i gynulleidfaoedd lleol. Mae yna botensial enfawr i grynhoi hyn oddi mewn i ŵyl ffilmiau sydd yn dod â chynulleidfaoedd ynysig at ei gilydd i ddathlu eu cymunedau a darganfod beth sy’n digwydd yn eu hardal drwy gydol y flwyddyn.”  Hana Lewis, Film Hub Wales

 

Fe fydd Vale Venue CineFest19 yn arddangos sinema mewn mannau anturus, yn creu digwyddiadau sydd yn fwy cyfeillgar i deuluoedd, yn ymgysylltu gydag ysgolion ac yn darparu rhagor o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau pontio’r cenedlaethau, cyfeillgar i dementia a digwyddiadua ffilm mewn awyrgylch ymlacedig.

 

 

“Rydym yn falch o gael cydweithio gyda’n sinemau partner i ddatblygu ein partneriaethau ac rydym yn edrych ymlaen at gael cyflwyno gŵyl ffilmiau sydd yn dangos amrediad eang o ffilmiau i gynulleidfaoedd ar draws y Fro. Rydym yn gweld y bartneriaeth fel cyfle gwych i annog cynulleidfaoedd sinema i ymweld â’n sinemau i weld beth sydd ar gael. Rydym eisiau cyflwyno’r ffilmiau gorau yn y Fro, o glasuron y sinema, ffilmiau annibynnol Prydeinig, ffilmiau byr, animeiddio, ffilmiau dogfen, ffilmiau rhyngwladol a hyd yn oed cynnwys Cymreig gwrieddiol." - Kate Long, Memo Arts Centre 

 

Fe fydd y lleoliadau sydd yn rhan o’r prosiect yn cynnwys: 

  • Barn At West Farm

  • Sinema Gymunedol Colwinston

  • Cowbridge Big Screen

  • Sinema Gymunedol Dinas Powys

  • Sinema Gymunedol Llancarfan

  • Canolfan Gelfyddydau’r Memo

 

  • Neuadd Bentref Peterston

  • Sinema Snowcat ym Mhafiliwn Pier Penarth

  • Canolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd

  • Sinema Gymunedol Sili

  • Chymdeithas Cymunedol a Chwaraeon  Ystradowen.  

 

 

 “Fe wnaethom nodi gwerth cymdeithasol sinemau cymunedol yn y Fro a helpu i’w cefnogi yn eu dyddiau cynnar. Bu’n wych gweld sut mae’r sinemau yma wedi datblygu i wasanaethu eu cymunedau eu hunain a sut mae sinemau newydd yn parhau i gael eu ffurfio. Fe fydd y cynllun yma yn golygu bod modd iddyn nhw nawr ddod at ei gilydd i rannu sgliau, oddi wrth ei gilydd.”- Nicola Summer Smith, Cymunedau Gwledig Creadigol 

 

Am ragor o wybodaeth am ddangosiadau a lleoliadau ewch i’w tudalen Facebook  neu edrychwch ar dudalen Barry Memo .