Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell y Barri’n croesawu plant ar Noson Flynyddol Llyfrau Harri Potter         

Gwahoddwyd gwrachod a dewiniaid i ddathlu Noson Llyfrau Harri Potter gyda Angenfilod Anhygoel yn thema eleni.

 

  • Dydd Mercher, 14 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Dan arweiniad yr Uwch Gynorthwy-ydd, Danielle Fox, a gyda chefnogaeth aelodau staff llyfrgell, dathlodd plant yn Llyfrgell y Barri’r digwyddiad ar ddydd Iau 1 Chwefror.

 

Hefyd cynhaliodd llyfrgelloedd yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth ddigwyddiadau â thema dros yr wythnos, ac roeddent yn rhan o’r 13,200 o bartïon a dathliadau a gynhaliwyd ym mhedwar ban byd.

 

 

Sorting hat

 

 

 

 

Cystadlodd y plant yn erbyn ei gilydd mewn timau, ar ôl cael eu didoli i’w llysoedd gan yr het ddidoli.

 

Rhoddodd Bloomsbury, cyhoeddwr llyfrau JK Rowland, syniadau, adnoddau a gweithgareddau i gofio'r creaduriaid hudol, mytholegol ym mud rhyfeddol Harri Potter.

 

 

 

 Group pic