Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Fforwm Cyllidebau Ysgolion yn mynnu arian teg i ddisgyblion  

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Fforwm Cyllidebau Ysgolion wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a phob rhiant yn y Fro er mwyn amlinellu eu pryderon ynghylch y diffyg mawr mewn arian ar gyfer addysg yn y Sir.  

 

  • Dydd Llun, 12 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri

    Cowbridge

    Dinas Powys

    Penarth

    Llantwit Major

    Rural Vale



Lefel y cyllid fesul disgybl ym Mro Morgannwg yw’r isaf yng Nghymru. 

 

Yn y llythyr y mae Pennaeth Gweithredol a Chadeirydd Fforwm Dr Vince Browne a’r Cynghorydd John Thomas wedi’i llofnodi, mae’r ddau yn tynnu sylw rhieni at y ffaith bod y Fro yn cael £606 yn llai fesul disgybl na ledled Cymru a £1,360 yn llai fesul disgybl na’r awdurdod lleol gorau o ran ariannu. 

 

johnthomasDywedodd y Cyng. Thomas: “Mae gennym ni rai o’r ysgolion gorau yng Nghymru a rhai o’r staff addysgu a chynorthwyo mwyaf brwdfrydig yng Nghymru yma ym Mro Morgannwg ond mae eu gwaith yn cael ei danseilio gan system ariannu ddiffygiol.  
“Mae’r arian y mae pob awdurdod lleol yn ei gael yn cael ei bennu gan fformiwla Llywodraeth Cymru. Efallai bu’n effeithiol ar un adeg, ond dyw’r fformiwla ddim wedi’i hadnewyddu ers un deg saith o flynyddoedd ac mae’n dibynnu ar ddata o gyfrifiad 1991. 


“Mae’n anodd credu bod arian am ein maes gwaith pwysicaf yn cael ei bennu gan ddata o bron 30 mlynedd yn ôl. 


“Rydw i wedi codi pryderon am hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ar sawl achlysur. Dyw eu hymatebion ddim wedi rhoi unrhyw sicrwydd i mi o gwbl yn y fethodoleg o rannu cyllideb addysg ledled Cymru. Efallai’n fwy pryderus, maen nhw hefyd wedi bod yn gwbl anfodlon ailystyried eu dulliau neu fynd i’r afael â dim o’r namau amlwg sydd wedi’u codi. 


“Am y rheswm eu bod nhw wedi gwrthod, teimlwn nad oedd unrhyw opsiynau heblaw cysylltu â rhieni disgyblion y mae eu haddysg yng ngofal y Cyngor i roi gwybod fy marn bod eu haddysg yn cael ei dal yn ôl oherwydd fformiwla hen a diffygiol Llywodraeth Cymru.”

 

vincebrowneDywedodd Dr Browne: “Bûm yn aelod o Grŵp Fforwm Cyllideb y Fro ers nifer o flynyddoedd ac yn dyst, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth i fyfyrwyr yr Awdurdod Lleol gael y cyllid isaf o blith myfyrwyr ledled Cymru. Bûm hefyd yn dyst i dwf yn y bwlch rhwng cyllid i fyfyrwyr yn y Fro a ledled Cymru.

 

Rwy’n credu bod tystiolaeth glir yn dangos bod methodoleg ariannu Llywodraeth Cymru yn rhoi addysg disgyblion yn y Fro dan anfantais a’i bod yn ddiffygiol ac anaddas. Mae Llywodraeth Cymru’n nodi mai ar sail sefydlogrwydd, eglurder a pherthnasedd y mae’n pennu cyllid.

 

Rydw i’n galw am adolygiad o’r fformiwla i sicrhau ei bod yn unol â’r egwyddorion hyn er tegwch i bob myfyriwr ledled Cymru.”


Oherwydd lleihad yn yr arian o du Llywodraeth Cymru, mae gwariant Cyngor Bro Morgannwg yn 2017/18 yr un peth ag a fu yn 2012/13. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdod wedi sianelu £3 miliwn yn fwy na’r Asesiad Seiliedig ar Ddangosyddion i mewn i ysgolion yn y flwyddyn ariannol bresennol. 


Mae gwariant ar addysg yn cynrychioli 45 y cant o gyllideb gyffredinol Cyngor Bro Morgannwg.  

 

Darllenwch y llythyr i Kirsty Williams AC

 

Darllenwch y llythyr i rieni