Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn cynnal cymhorthfa cyllid 1-2-1 gyda Chwaraeon Cymru


Cynhaliodd grwpiau aelod Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg Gymhorthfa Cyllid 1-2-1 gyda Chwaraeon Cymru i drafod sut i gael cymorth ariannol gan y dosbarthwr Loteri.  

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



 

Gwnaeth tri grŵp aelod GGM, Barry Aero Modellers, Fferm Ymddiredolaeth Amelia a Grŵp 10k Llanilltud Fawr, gwrdd â Ceri Richards a Richard Lawrence o Chwaraeon Cymru ddydd Iau 30 Ionawr. Cafodd yr holl grwpiau gyngor ynghylch sut y gallant ddatblygu eu gweithgareddau.

 

Mae mwy na tri chant grŵp wedi mynychu’r Cymorthfeydd Cyllid dros yr wyth mlynedd diwethaf ac mae nifer wedi derbyn cymorth ariannol.

 

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn elusen lleol, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fenter Gymunedol y Barri yn Skomer Road, sy’n cefnogi grwpiau cymunedol yn y Fro, gydag amrywiaeth o wasanaethau am ddim neu am gost isel. 

 

Mae GGM yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli, o helpu plant, gwirfoddoli mewn meysydd Chwaraeon, yr Amgylchedd, Ysbytai a Hosbisau a mwy.

 

Gweler y wefan am ragor o wybodaeth

 

 

 

 Meeting