Cost of Living Support Icon

 

Ardal Chwarae Cogan Pill yn ail-agor yn swyddogol erbyn gwyliau’r haf

Gall plant sy’n byw yn Llandochau fwynhau ardal chwarae Cogan Pill newydd ei hadfywio yn ystod eu gwyliau ysgol.  

 

  • Dydd Mercher, 25 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Gwnaeth Horizon Civil Engineering Ltd uwchraddio'r ardal chwarae ger Dochdwy Road yn Llandochau.

 

Mae’r cyfleusterau chwarae presennol wedi’u cadw ac mae'r offer newydd yn cynnwys si-so gwas y neidr, uned Zingo ac uned tornado. Roedd y gwaith adfywio’n cynnwys gosod offer newydd gydag wyneb diogelwch ac uwchraddio’r grisiau ger sleid yr arglawdd. 

 

Gwnaeth Cyngor Bro Morgannwg dderbyn £41,689 yn benodol ar gyfer gwella gofod agored cyhoeddus yn Llandochau, gan sicrhau cytundeb Adran 106 gan Gymdeithas Tai Hafod yn unol ag ailddatblygu 67-79 Dochdwy Road (y parêd siopa gynt).

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ar ddechrau 2017 yn Ysgol Gynradd Llandochau, sydd gyferbyn â’r safle, a alluogodd disgyblion i weld cynlluniau’r adfywio gan rannu eu barn a'u syniadau mewn gwasanaeth ysgol.

 

Awgrymodd y plant y dylid sicrhau fframiau dringo ac offer sy’n addas i blant iau a hŷn. Roeddent o'r farn y dylai parc fod yn lle i greu atgofion plentyndod fyddai'n para am oes.

 

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant: “Mae’n wych bod ardal chwarae Cogan Pill, yn llawn offer newydd a'r hen ffefrynnau, wedi agor eto mewn amser i'r plant ei mwynhau dros y gwyliau.

 

“Mae hefyd yn wych gweld cyllid Adran 106 yn ariannu’r ardal chwarae hon, sy'n ased da iawn i'r gymuned. Gobeithiaf y bydd yr ardal chwarae newydd yn annog plant a phobl ifanc i fwynhau treulio amser y tu allan yr haf hwn.”  

 

 

 

 

 play area group shot Cogan pill