Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 27 Mis Mehefin 2018
Bro Morgannwg
Cynhelir yr ŵyl ar ddydd Sul 05 Awst, ac mae'n rhan o raglen dwristiaeth Ynys y Barri ar gyfer Ymwelwyr y Penwythnos, a bydd y lleoliad ar lan y môr yn cynnal Gŵyl o waith codi arian yr elusen, hwyl yr haf a gwisg ffansi!
Wrth gwrs, ni ellid cynnal y ras – sy’n digwydd yn ardaloedd glan môr pertaf y dref - heb gymorth gwirfoddolwyr gwych. A dyma’ch cyfle chi!
Maent yn chwilio am unigolion a grwpiau i fod yn rhan o’r canlynol:
Rhoi allan y medalau, crysau-t a’r dŵr i’r rhai sy’n gorffen
Bydd y gwirfoddolwyr, sy’n cael eu galw’n ‘Extra Milers’, yn cael gweld y ras agos iawn ac yn cael y cyfle i gymysgu gyda’r athletwyr. Os ydych yn frwd o ran athletau neu ond am fod yn rhan o ddigwyddiad gwefreiddiol, bydd bod yn ‘Extra Miler’ â rhywbeth at ddant pawb. Cewch hefyd becyn y gallwch ei gadw fel atgof o’r diwrnod.
Rydym yn chwilio am unigolion a grwpiau o bob maint a chefndir. Gall gwirfoddolwyr fod mor ifanc â 14 oed (ond rhai i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn).
Mae ymuno â’n tîm a bod yn ‘Extra Miler’ mor hawdd! Cysylltwch â Marina: