Cost of Living Support Icon

 

Gwaith i adeiladu Lôn Pum Milltir Newydd Bellach ar y Gweill 

Mae gwaith i adeiladu Lôn Pum Milltir newydd (A4226) bellach ar y gweill a bydd y gwaith i osod prif elfennau’r ffordd newydd yn dechrau’r haf hwn.  Disgwylir i’r ffordd gael ei chwblhau yn ystod haf 2019.

  • Dydd Gwener, 23 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Nododd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AS, ddechrau’r gwaith adeiladu'n swyddogol heddiw trwy dorri tywarchen yn y safle. 

Five Mile Lane - JT & KS breaking groundDywedodd y Cyng Thomas: “Mae heddiw yn nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer datblygu economaidd ym Mro Morgannwg. Dyma gynllun o bwysigrwydd mawr, nid yn unig oherwydd y buddsoddiad o £25m ond oherwydd y buddion posibl enfawr y mae’n eu cynnig i’r Fro ac i Dde Cymru i gyd.  

 

“Pan gaiff ei chwblhau, bydd y ffordd newydd yn lleihau amseroedd teithio i drigolion lleol yn sylweddol, ond yn bwysicach na hynny bydd hefyd yn lleihau’r amseroedd teithio hynny rhwng Croes Cwrlwys a Pharthau Menter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd. Bydd hyn yn creu ysgogiad hanfodol i fuddsoddi yn y ddau.  

 

“Bydd y ffordd newydd hefyd yn gwella dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus ac yn darparu llwybr beicio diogelach” 

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Rydym yn ariannu’r gwaith peirianneg sifil hanfodol hwn er mwyn helpu Cyngor Bro Morgannwg i wella’r A4226, neu Lôn Pum Milltir, i wella mynediad ac amseroedd teithio i Barthau Menter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd.  “Bydd y gwaith yn gwella diogelwch ac amseroedd teithio ar hyd y rhan hon o’r briffordd a bydd yr holl lwybrau i Faes Awyr Caerdydd o’r Gorllewin, naill ai ar hyd yr A48 neu’r A4232, yn elwa."

Mae gwaith dylunio manwl ar gyfer y project yn cael ei gwblhau gan y prif gontractwr Alun Griffiths ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Rheolwr Project, Alun Griffith: “Edrychwn ymlaen at wella’r rhwydwaith strategol ar gyfer Sain Tathan mewn ardal y mae ein staff yn gweithio, yn byw neu’n ei defnyddio – a hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Five Mile Lane sod cutting - full group

 

Dyfarnwyd y contract gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Hydref, a chytunwyd arno’n ffurfiol ym mis Rhagfyr 2017. 

 

Dechreuodd gwaith paratoi, gan gynnwys gwaith clirio tir, yn gynnar yn 2018 a sefydlwyd y safle y caiff y cynllun ei reoli ohono yn gynharach y mis hwn.