Cost of Living Support Icon

 

Homes4U-logoProses Ymgeisio Homes4U Ar-lein

Gallwch bellach gofrestru ar gyfer y cynllun Homes4U ar-lein, sy’n ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gofrestru 

 

  • Dydd Iau, 22 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Bungalow

Nawr, bydd angen i breswylwyr gofrestru ar gyfer Homes4U ar ffurflen gais ar-lein newydd. Mae’r ffurflen newydd hon yn disodli’r hen fersiwn bapur.

 

Bydd ceisiadau papur yn dal i gael eu derbyn tan ddydd Mawrth 04 Ebrill 2018.

 

Fel arfer, bydd ein tîm ar gael i roi cymorth a chanllawiau i breswylwyr sy'n cwblhau'r ffurflen ar-lein ac i ateb unrhyw ymholiadau eraill gan gwsmeriaid.

 

Bydd angen i’r rheiny sy’n methu â chael mynediad at y ffurflen ar-lein gysylltu â thîm gweinyddol Homes4U i wneud cais am fersiwn arall.

 

Sylwer:  Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn ni’n rhoi copïau papur.

 

 

Cofrestru Ar-lein

I wneud cais am Homes4U, bydd angen i chi gyflwyno’r hyn a ganlyn:

  • Enw llawn, cyfeiriad a chod post
  • Cyfeiriadau a chodau post dros y 3 blynedd diwethaf
  • Rhifau Yswiriant Gwladol ar gyfer POB ymgeisydd
  • Cyfeiriadau e-bost a rhifau cyswllt
  • Incwm/budd-daliadau (cyfansymiau wythnosol)
  • Enwau, cyfeiriadau a chodau post landlordiaid presennol a blaenorol dros y 3 blynedd diwethaf

 

 

Cofrestru Ar-lein