Cost of Living Support Icon

 

Plant Dros Benarth

Mae aelodau o Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth wedi gweithio gyda Gwyrddio Penarth i blannu perllan ffrwythau ym Mharc Wordsworth, Penarth ddydd Mercher 7 Mawrth.

 

  • Dydd Llun, 12 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



 

Mae Gweithredu Ieuenctid Penarth yn grŵp o bobl ifanc 11-18 oed a gynhelir gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc ym Mhenarth yn cael eu clywed gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau.  Maen nhw am wneud Penarth yn well lle i drigolion ifanc. 

 

Bu Gweithredu Ieuenctid Penarth yn flaenorol yn rhan o’r gwaith o uwchraddio’r offer chwarae ym Mharc Wordsworth. Ar ôl dysgu am Wyrddio Penarth, neidiodd aelodau ar y cyfle i helpu i blannu perllan ffrwythau ym mhen pellaf y parc. 

 

 

 

Penarth-Youth-Action-logo

Gyda gwirfoddolwyr o Wyrddio Penarth, plannodd aelodau’r coed ffrwythau canlynol: 6 Afal, 1 Oren Ellison, 1 Grenadier, 1 Lanes Price Albert, 1 Lord Lambourne, 1 James Grieve, 1 Lord Derby, 1 Eirn Hir (eirin sych Swydd Amwythig), 1 Ceirios (Stella) 1 Gellyg (Cynhadledd), ac 1 Eirin (Victoria).  Mae pob un yn fath traddodiadol Cymreig a fyddai wedi tyfu yn y perllannau cannodd o flynyddoedd yn ôl. 

 

 

 

 

Mae’r berllan ffrwythau ar gyfer y gymuned leol.  Bydd yn helpu i hybu'r gymuned i dyfu'r ffrwythau ac i gymryd cyfrifoldeb am y berllan, a bydd yn helpu trigolion i ailddarganfod pleser bwyta ffrwythau'r filltir sgwâr. Bydd y berllan hefyd yn creu cynefinoedd i fywyd gwyllt.    

 

 

Bydd Gweithredu Ieuenctid Penarth a Gwyrddio Penarth yn monitro ac yn gofalu am y berllan ffrwythau ond bydd adran Barciau Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cynorthwyo i gynnal a chadw'r ardal. 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â valeyouthaction@gmail.com.