Cost of Living Support Icon

 

Y diweddaraf gan Gyngor Bro Morgannwg ynghylch gwaith nwyeiddio Dociau’r Barri 

Gan fod y gwaith nwyeiddio bellach yn symud i'r cam nesaf o gomisiynu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am reoleiddio unrhyw weithgareddau sy’n cael eu cwmpasu gan y Drwydded Amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys comisiynu a gweithrediadau arferol yn ogystal â storio tanwydd coed cysylltiedig. 

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Bydd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i reoleiddio materion sy’n ymwneud â niwsans yn sgil gweithgareddau nad ydynt yn cael eu cwmpasu yn y drwydded, megis llygredd golau a sŵn yn dod o’r gwaith adeiladu.


Ar ôl ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Gweithredwr, nid yw’r Cyngor yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod allyriadau’r gwaith yn destun pryder i iechyd y cyhoedd.  Fodd bynnag, mewn ymdrech i roi sicrwydd i breswylwyr, bydd y Cyngor yn caffael ac yn gosod synwyryddion monitro ansawdd aer awtomataidd mewn lleoliadau penodol o amgylch y cyfleuster biomas cyn gynted â phosibl. 


Dylai unrhyw drigolion yr effeithir arnynt gan sŵn yn y nos gysylltu â’r GRhR ar 0300 123 66 96 (yn ystod oriau gwaith) neu anfon e-bost at C1V@valeofglamorgan.gov.uk.


Mae Tîm Gorfodi Cynllunio’r Cyngor hefyd yn parhau i fonitro’r gwaith a’r gweithrediadau a gyflawnir ar y safle. Hyd yn hyn, nid yw wedi bod yn briodol cymryd unrhyw gamau ffurfiol. Mae’r Cyngor wrthi’n ystyried cais yn ymwneud â thanc tân, adeiladu ac adleoli maes parcio yn safle’r gwaith. Mae hyn wedi bod yn destun ymgynghori helaeth a bydd yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn dod i benderfyniad maes o law. Bydd y Cyngor yn parhau i dalu sylw agos i’r sefyllfa, ac os bydd angen, cymerir camau gorfodi cyflym. 


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod ei bod yn bwriadu cyfarwyddo y dylid cyflawni Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) ochr yn ochr â’r cais cynllunio.  Mae’r Cyngor wrthi’n disgwyl am ganlyniad trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a’r ymgeisydd ynghylch y gofyniad am hyn, sefyllfa sydd wedi oedi’r broses o wneud penderfyniadau. 


Os bydd Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen AEA, bydd angen i’r ymgeisydd baratoi Datganiad Amgylcheddol. Yna, byddai proses ymgynghori lawn yn dilyn cyn y gwneir unrhyw argymhelliad i’r Pwyllgor Cynllunio. 

 

Cyfleuster biomas y Barri – newid o’r cam cyn comisiynu i weithredu - Cwestiynau cyffredin