Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 03 Mis Mai 2018
Bro Morgannwg
Mae grantiau gwerth mwy nag £1m wedi’u dyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys ffordd gyswllt Pentir Penarth, safleoedd bws newydd ar yr A48 a mentrau diogelwch ar y ffyrdd.
Fodd bynnag, cafodd cais am yr £1m sydd ei angen i gwblhau astudiaeth o opsiynau i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ym mhentref Dinas Powys ei wrthod.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Dwi’n siomedig iawn fod y cais am gyllid i symud yr astudiaeth trafnidiaeth yn Ninas Powys i gam tri wedi’i wrthod. “Fodd bynnag, rydym ar gam cynnar o hyd, ac nid yw’r ffaith fod y prosiect wedi cael ei wrthod y tro hwn yn golygu na lwyddwn yn y dyfodol. “Gwnaethom gyflwyno’r cais ar y cyfle cyntaf fel y gallem symud yr astudiaeth ymlaen i’r trydydd cam cyn gynted â phosibl. O ganlyniad, nid ydym ond hanner ffordd drwy gam dau ac rydym yn parhau i ddatblygu cynlluniau manwl am ffordd osgoi bosibl. “Mae’r prosiect hwn yn bwysig iawn i’r Cyngor ac felly dwi wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pam y cafodd y cais ei wrthod a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod unrhyw gais yn y dyfodol yn llwyddiannus.”
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Dwi’n siomedig iawn fod y cais am gyllid i symud yr astudiaeth trafnidiaeth yn Ninas Powys i gam tri wedi’i wrthod.
“Fodd bynnag, rydym ar gam cynnar o hyd, ac nid yw’r ffaith fod y prosiect wedi cael ei wrthod y tro hwn yn golygu na lwyddwn yn y dyfodol.
“Gwnaethom gyflwyno’r cais ar y cyfle cyntaf fel y gallem symud yr astudiaeth ymlaen i’r trydydd cam cyn gynted â phosibl. O ganlyniad, nid ydym ond hanner ffordd drwy gam dau ac rydym yn parhau i ddatblygu cynlluniau manwl am ffordd osgoi bosibl.
“Mae’r prosiect hwn yn bwysig iawn i’r Cyngor ac felly dwi wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pam y cafodd y cais ei wrthod a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod unrhyw gais yn y dyfodol yn llwyddiannus.”
Ni fydd y diffyg cyllid ar gyfer cam tri o’r astudiaeth trafnidiaeth yn effeithio ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud na’r cyhoeddiad diweddar fod y prosiect wedi’i ymestyn i gynnwys opsiynau ychwanegol.