Cost of Living Support Icon

 

Ymatebion ymgynghoriad Llancarfan yn cael eu hystyried

Cafwyd ystod eang o safbwyntiau ymhlith ymatebion yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhai’r staff, disgyblion, rhieni ac aelodau’r gymuned leol. 

 

  • Dydd Iau, 03 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Mae’r gwaith cychwynnol yn mynd rhagddo i ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg ar y cynnig i adeiladu ysgol gynradd newydd yn y Rhws ac adleoli Ysgol Gynradd Llancarfan a hynny yn dilyn cau’r dyddiad olaf i dderbyn sylwadau ar 20 Ebrill.

Dywedodd y Cyng Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Derbyniodd y Cyngor nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae rhain yn cyfleu’n gryf yr  ymdeimlad sydd ym mhentref Llancarfan a’r cyffiniau.  


 “Mae’n glir o’r ymatebion a dderbyniwyd fod sawl mater i ni fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys effeithiau posib ar gymuned Llancarfan a phryderon ynghylch dyfodol safle’r ysgol a’r adeiladau, os y bwrir ymlaen â’r cynigion i adleoli ysgol Llancarfan.   

 

“Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod pob cyfle gan holl ddisgyblion y Fro i lwyddo. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned ehangach a wasanaethwn y gallwn wireddu’r weledigaeth hon. Am y rheswm yna bu’r ymgynghoriad yn ymarferiad gwerthfawr a phwysig wrth ystyried y camau nesaf.

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ryddhau unwaith i ystyriaeth gychwynnol o’r ymatebion gael ei chwblhau.