Cost of Living Support Icon

 

Maes chwarae Lougher Place i gael eu hadnewyddu yn sylweddol

BYDD maes chwarae Lougher Place yn Sain Tathan yn cael ei adnewyddu’n sylweddol o ganlyniad i ymdrechion y sefydliad cymunedol lleol, Saints, ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Gwener, 04 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Nod y grŵp, sydd wedi’i ffurfio o drigolion lleol, yw gwella mannau agored a meysydd chwarae yn y pentref.


Gan ddefnyddio’r slogan #dysgu#tyfu#chwarae#ynghyd, y nod yw annog plant i fod yn fwy gweithgar a chreu amgylcheddau awyr agored cadarnhaol iddynt eu mwynhau.


Dan arweiniad Lisa Austin, Sally Gardiner, Charlotte Cook a David Elston, casglwyd £3,500 tuag at y prosiect, a fydd yn cynnwys gwella’r ardal chwarae bresennol, gan gynnwys gosod offer chwarae newydd ac arwyneb newydd ar y safle.

 

lougher1Cyfanswm cost y cynllun yw £157,500, gyda £126,000 yn dod drwy grant Llywodraeth Cymru a £28,000 drwy gyfraniadau adran 106 yn gysylltiedig â datblygiadau adeiladu lleol a sicrhawyd gan y Cyngor.


Ynghyd â’r brif ardal chwarae, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o offer modern, bydd ardal gemau aml-ddefnydd newydd yn cael ei hadeiladu, lle gellir chwarae gemau pêl.

 

Bydd yn cynnwys ffens sy’n amsugno sŵn er mwyn lleihau tarfu, yn ogystal â llwybr cerdded newydd a system ddraenio well.


Mae’r offer a fydd yn cael ei osod ar y safle yn cynnwys siglenni crud, sleidiau llydan, siglyddion sbring cefnogol, cwrs antur, tŵr ffrâm ddringo a chaban daear.


Fe’i dyluniwyd gydag ystyriaeth i elfennau cyffyrddol a chwarae grŵp, gyda lliwiau cyferbyniol ac elfennau sain.
Bydd yr amrywiaeth eang o brofiadau chwarae yn hygyrch i blant anabl ac abl ac yn galluogi plant o oedrannau gwahanol i chwarae gyda’i gilydd.


Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan HAGS, un o’r cynhyrchwyr hamdden mwyaf yn Ewrop. Bydd yn dechrau ym mis Gorffennaf ac yn para tua 10 wythnos.

lougher2Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o welliannau i ardaloedd chwarae y mae'r Cyngor wedi'u gwneud.


“Hoffwn ddiolch i aelodau Saints am eu holl waith caled yn codi arian ar gyfer y prosiect hwn, ynghyd â phawb arall sydd wedi cyfrannu.


“Bydd y cynllun cyffrous hwn yn trawsnewid Lougher Place yn ardal chwarae fodern yn llawn offer cyffrous a chynhwysol y gall plant anabl ac abl o bob oedran ei fwynhau.”

Dywedodd Ms Austin: “Hoffai Saints ddiolch i’r gymuned am eu cyfraniad a’u cefnogaeth. Gobeithiwn fod y prosiect hwn yn dangos, drwy weithio’n ddyfal gyda’n gilydd, y gallwn ychwanegu gwerth at gymuned Sain Tathan.”