Cost of Living Support Icon

Uwchgynhadledd Bro Morgannwg – Cadwch ein Traethau’n Brydferth

Mae Ynys y Barri yn boblogaidd gyda thwristiaid dros yr haf, ond yn anffodus dangosodd Gŵyl y Banc fod gennym broblem sy’n agos iawn at ein calonnau. 

 View of Whitmore Bay

 

Yn anffodus, dewisodd llawer o ymwelwyr adael eu sbwriel ar y traeth. Roedd hyn yn cynnwys cewynnau brwnt, bwyd, pecynnau a photeli. 

 

Rydyn ni’n dwlu gweld llawer o ymwelwyr yn dod yma, ond mae’n dorcalonnus gweld yr holl sbwriel y mae rhai yn ei adael.

 

Eich pryderon chi yw ein pryderon ni, felly yn ein barn ni y ffordd orau o ddatrys y broblem yw i gydweithio!

 

Dyma pam rydyn ni’n cynnal ‘Uwchgynhadledd Sbwriel’ yn ddiweddarach yn y mis. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi i drigolion lleol, masnachwyr, sefydliadau gwirfoddol a phobl o’r un feddylfryd i geisio mynd i’r afael â sbwriel mewn cyrchfannau dros fisoedd yr haf.

  

Ein nod yw creu cyrchfan y mae ymwelwyr eisiau dychwelyd iddi dro ar ôl tro.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

 

    • Beth mae’r Cyngor yn ei wneud ar y funud i atal sbwriel
    • Sut mae’r Cyngor yn gweithio i lanhau’r gwastraff sy’n cael ei adael ar ôl gan ymwelwyr 
    • Sesiwn ryngweithiol lle gall pawb rannu syniadau ynghylch sut y gallwn gydweithio i ddatrys y broblem 

 

Ar ôl y digwyddiad byddwn yn cyhoeddi’r holl syniadau a godwyd, ynghyd â chynllun o'r camau nesaf a ffyrdd y gall pawb arall sy'n cau ein traethau gyfrannu hefyd.