Cost of Living Support Icon

 

Ethol Maer Ieuenctid Bro Morgannwg

Pleidleisiodd mwy nag erioed o bobl ifanc y Fro am eu pumed Maer Ieuenctid i gynrychioli’r sir flwyddyn nesaf.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Cynhaliwyd yr etholiadau o ddydd Llun 15 Hydref i ddydd Gwener 19 Hydref yn ystod yr Wythnos Democratiaeth Leol.

 

Nod yr etholiad yw sicrhau bod pobl ifanc yn fwy ymwybodol o’u cyngor lleol a’u hannog i ddweud eu dweud am eu cymunedau lleol. 

 

Etholwyd Ben Lloyd o Ysgol Gyfun y Bont-faen yn Faer Ieuenctid a Nikita Harrhy, disgybl yn Ysgol Gyfun Sant Cyres, yn Ddirprwy Faer Ieuenctid. 

 

Mayor Cllr Leighton Rowlands, Ben Lloyd  and Nikita Harrhy,  Council leader Cllr John Thomas and Cllr Bob Penrose


Gwnaed y cyhoeddiad gan y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Cyng Bob Penrose a Faer y Fro, y Cyng Leighton Rowlands.

 

Dywedodd Maer Bro Morgannwg, Cyngh Leighton Rowlands:

 

"Da iawn i'r holl ymgeiswyr am ei sefyll, nid yw'n hawdd rhoi eich hun ar gyfer etholiad, yn enwedig fel person ifanc. “Edrychaf ymlaen at weithio gyda Ben a Nikita yn ystod fy nhymor swyddfa, ac edrychwn ymlaen at eu syniadau newydd". 

I gael rhagor o wybodaeth am waith y Maer Ieuenctid, a’r Cabinet Ieuenctid, ledled y Fro, ewch i
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/youth_service/Youth-Participation