Cost of Living Support Icon

 

Cronfa’r Loteri Fawr i helpu grwpiau cymunedol ar hyd a lled y Fro

Mae Cronfa’r Loteri Fawr yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau ym Mro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Mae tîm Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) wedi trefnu diwrnod o apwyntiadau, y bydd angen eu trefnu o flaen llaw, gyda Chronfa’r Loteri Fawr, ar gyfer ei grantiau Cymru Gyfan (CG) a grantiau Pobl a Lle (PaLl).

 

 

GVS

Mae’r grantiau Cymru Gyfan yn amrywio o £300 i £10,000 a’r grantiau Pobl a Lle werth rhwng £10,001 a £100,000 (Canolig) i £500,000 (Mawr).

 

Cynhelir Cymhorthfa Cyllid y Loteri Fawr yng Nghanolfan Blant Integredig Gorllewin y Fro yn Llanilltud Fawr (y drws nesaf i Ysgol Gynradd Sant Illtyd) ar ddydd Mawrth 18 Medi.

 

 

Bydd grwpiau gwirfoddol a chymunedol Bro Morgannwg yn gallu gwneud cais am apwyntiad hanner awr gyda chynghorwyr Cronfa’r Loteri Fawr i drafod a yw cais neu geisiadau’n gymwys.

 

 

Rhaid i grwpiau sydd am geisio cael apwyntiad fod yn rhydd unrhyw bryd rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth 18 Medi.

 

Am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch i’r wefan.

 

Cysylltwch â GVS ar 01446 741706 neu danfonwch e-bost i enquiries@gvs.wales