Cost of Living Support Icon

 

Cyfnewid contractau ar gyfer datblygu Sied Nwyddau Ardal Arloesi y Barri

Mae contractau wedi cael eu cyfnewid rhwng Cyngor Bro Morgannwg a’r datblygwr DS Properties ar gyfer datblygiad defnydd cymysg uchelgeisiol.

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Goods Shed frontMae’r datblygiad, sy’n destun caniatâd cynllunio, yn cynnig troi Sied Nwyddau rheilffordd hanesyddol o’r 1880au (Adeilad Gwalia ar Hood Road) yn bentref busnes ac adloniant bywiog yn cynnwys caffis untro a barrau, hyb technoleg, unedau gwaith byw a llety ar gyfer busnesau bach, lleol a fydd yn masnachu allan o gynwysyddion llongau. 

 

Y cynllun hwn yw cam diweddaraf y gwaith yn Ardal Arloesi Glannau’r Barri, sef cyd-fenter adfywio rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru sy'n anelu at sefydlu ardal drefol defnydd cymysg yng nghanol Glannau’r Barri.   

 

Nod Project y Sied Nwyddau yw cyd-fynd â chynlluniau presennol yr Ardal Arloesi gan gynnwys swyddfeydd a gweithdai yn y Ganolfan Gwasanaethau Busnes, Gwesty Premier Inn, Brewers Fayre, Camfa Ffitrwydd Snap, Bar Espresso Academy, Bwyty Hang Fire a Chanolfan Feddygol Cei'r Gorllewin. 

 

Nod y datblygwr blaenllaw DS Properties, sy’n gyfrifol am addasu’r Pumphouse penigamp cyfagos, yw cyflwyno cais cynllunio yn yr hydref ar gyfer y cynnig cyffrous hwn ar gyfer y Sied Nwyddau.     

 

Goods shed back

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr DS Properties, Simon Baston,

“Mae DS yn credu’n gryf bod y cynllun hwn yn ‘stryd fawr drefol” newydd ar gyfer y 21ain Ganrif ac mae’n falch bod yr Awdurdod Lleol yn gweld manteision y cynllun hwn i drigolion yn ogystal â busnesau. 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio Cyngor Bro Morgannwg: 

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda DS Properties unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen at weld y datblygwr yn cyflawni cynllun addasu o safon debyg i’r Pumphouse poblogaidd, sy’n llwyddiant mawr.  Mae’r cysyniad defnydd cymysg a gynigir gan DS Properties yn un creadigol dros ben ac mae ganddo’r potensial i fod yn batrwm o gynllun defnydd cymysg cynaliadwy a fydd yn helpu i hybu’r economi leol a sicrhau budd i'r gwaith ehangach o adfywio'r Barri.

 

Y gobaith yw y caiff y cynllun ei gwblhau yn 2019.