Cost of Living Support Icon

 

Yr Oriel Gelf Ganolog yn croesawu arddangosfa gelf ryngwladol

Dros y mis nesaf, bydd yr Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg, yn croesawu’r arddangosfa gelf lwyddiannus Open Books.

  • Dydd Iau, 11 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg



open books new pr

Mae’r arddangosfa’n cynnwys llyfrau plyg wedi’u peintio â llaw a gwaith celf crog trawiadol wedi’u creu gan artistiaid o bedwar ban byd. Mae’r arddangosfa, a gyflwynwyd gyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi tyfu mor fawr nes ei bod yn teithio’n barhaus ledled y byd.

 

 

Bydd yn dychwelyd i’r Barri ar Ddydd Sadwrn 13 Ebrill a bydd ar agor i’r cyhoedd am ddim tan 11 Mai. Mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r Digwyddiad Agored ar Ddydd Sadwrn 13 Ebrill, rhwng 2pm a 4pm.

 

Fel rhan o’r arddangosfa, bydd yna Lwybr Llyfrau Plyg a Gweithdy Darlunio ar 4 Mai rhwng 1.30pm a 3.30pm.

 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Mary Husted a ddechreuodd yr arddangosfa yn ôl yn 2010. Bydd yr artist lleol Sue Hunt yn arwain y gweithdy.

 

Bydd y gweithdy yn cynnwys taith gerdded o gwmpas Sgwâr y Brenin i Dock View Road, y Barri, gan wneud nodiadau – ysgrifenedig neu weledol – cymryd rhwbiadau ar bapur a dychwelyd i’r Oriel i greu gwaith yn y llyfrau.

 

Bydd cost fach o £15 y pen ar gyfer y gweithdy, a fydd yn cynnwys llyfr plyg bychan.

 

Gallwch archebu drwy Eventbrite yn www.bromorgannwg.gov.uk