Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn rhoi camau gorfodi pellach ar waith yn erbyn datblygwyr y Glannau

Mae Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi rhoi camau gorfodi ar waith yn erbyn Persimmon Homes ar ôl iddyn nhw ddechrau gwneud gwaith adeiladu pellach ar Lannau’r Barri heb ganiatâd cynllunio.

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg



Mae Hysbysiad Stop Dros Dro wedi’i gyflwyno i’r cwmni, a ddechreuodd weithio ar eu datblygiad preswyl South Haven cyn iddyn nhw gael y caniatâd perthnasol.

 

Civic-Offices-Home page

Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried cyflwyno Hysbysiad Gorfodi a Hysbysiad Stop llawn os bydd angen i sicrhau na chyflawnir unrhyw waith adeiladu pellach heb awdurdod.


Cyn y Nadolig, cyflwynodd y Cyngor hysbysiadau gorfodi tebyg i Persimmon, gan eu gorfodi i roi’r gorau i adeiladu a gwerthu tai newydd ar y Glannau nes y bydd cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y gwaith o adeiladu barrau a bwytai yng Nghanol yr Ardal.


Ers hynny, mae gwaith wedi dechrau ar Ganol yr Ardal ac rydym yn gweithio gyda Persimmon i sicrhau y caiff ei gwblhau cyn gynted â phosibl ochr yn ochr â chyfran resymol o ddatblygiadau preswyl.


Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Er ein bod ni’n croesawu’r gwaith o godi cartrefi newydd i drigolion y Barri, mae’n rhaid dilyn y gweithdrefnau cynllunio priodol ac nid felly y bu yn yr achos hwn.


“Mae Consortiwm y Glannau wedi parhau i anwybyddu’r fath ymrwymiadau, gan anfon neges sy’n peri pryder o ran eu hagwedd tuag at y gymuned leol. 


“Fel y dangoswyd cyn y Nadolig, ni fyddwn yn petruso rhag rhoi camau cadarn ar waith i sicrhau bod datblygwyr yn bodloni eu holl ymrwymiadau nid yn unig mewn cysylltiad â’r project hwn ond unrhyw broject arall. 


“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn symud yn ei flaen mewn dull cytunedig a derbyniol.”