Cost of Living Support Icon

 

Gwaith celf 100m yn dweud wrth ymwelwyr i Ynys Echni am roi eu sbwriel yn y bin

Caiff ymwelwyr i Ynys y Barri heddiw eu cyfarch gan ddarn o gelf tywod 50 metr o hyd a 100 metr o led.  Ac mae’n rhannu neges syml:  Rhowch eich sbwriel yn y bin! 

 

  • Dydd Mawrth, 20 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae’r neges yn rhan o ymgyrch a gyflwynir gan Gyngor Bro Morgannwg i gyd-fynd â phenwythnos Gŵyl y Banc Awst.  

 

Bin It! sand art aerial view

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor:

 

“Mae Gŵyl y Banc Awst fel arfer yn un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn ar gyfer Ynys y Barri. 

 

"Rydym am sicrhau bod eleni yn un o’r glanaf.  

 

“Gall diwrnod heulog ddenu miloedd o bobl i’r ardal.  Mae’r mwyafrif yn gwaredu eu sbwriel yn gyfrifol ond yn anffodus mae ambell un sydd ddim yn gwneud hynny.  

 

“A dyna pam ein bod ni wedi gwneud y neges mor glir â phosibl.

 

“Mae 70 bin ar hyd y promenâd yn Ynys y Barri a mwy na 100 yn yr ardal gyfan. 

 

“Does dim esgus dros beidio â defnyddio’r rhain ac rydym yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddod o hyd iddynt gydag arwyddion a baneri newydd yn cael eu gosod yr wythnos hon." 

Mae’r gwaith celf sy’n cael ei ddadorchuddio heddiw yn un o dri a fydd yn cael eu creu dros weddill yr haf ac mae’r gwaith hwn wedi cael ei wneud gan yr artist lleol Din Evans. 

 

Mae’r Cyngor yn cynyddu ei weithrediadau rheoli gwastraff yn yr ardal yn ystod yr haf. 

 

Mae’r traeth yn cael ei glirio a sbwriel yn cael ei gasglu bob bore, tra bo casgliadau casglu sbwriel ychwanegol yn cael eu cynnal gyda'r nos ar y penwythnos. 

 

Mae gwirfoddolwyr nawr hefyd yn trefnu eu casgliadau sbwriel eu hunain ar rai nosweithiau.  

 

Gwneir cyhoeddiadau rheolaidd hefyd dros system cyfarch y cyhoedd i atgoffa pobl i waredu eu gwastraff yn gyfrifol. 

 

Yn ogystal â hyn mae'r Cyngor wedi gosod ffynhonnau dŵr i helpu pobl i ddefnyddio llai o blastigau defnydd unigol.