Cost of Living Support Icon

 

Yr Oriel Gelf Ganolog yn cynnal Gwobrau Dysgu Ysbrydoli

Cynhaliodd Oriel Gelf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg y Gwobrau Dysgu Ysbrydoli blynyddol, sy’n cydnabod llwyddiannau dysgwyr sy’n oedolion ar draws Caerdydd a’r Fro.

 

  • Dydd Mercher, 07 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Inspire awards photo banner size

 

Cynhaliodd Oriel Gelf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg y Gwobrau Dysgu Ysbrydoli blynyddol, sy’n cydnabod llwyddiannau dysgwyr sy’n oedolion ar draws Caerdydd a’r Fro.Wedi’i drefnu gan Rwydwaith Dysgu i Oedolion

 

Caerdydd a’r Fro, daeth dros 100 o westeion i’r digwyddiad o sefydliadau partner sy’n cynnig cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli.


O blith y sefydliadau hynny roedd gwasanaethau’r Cyngor, megis Dysgu Oedolion yn y Gymuned, llyfrgelloedd, grŵp strategaeth 50+ a Dechrau’n Deg, ynghyd â sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Cymunedau am Waith, Coleg Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Gwasanaeth Gwirfoddoli Morgannwg a’r Ganolfan Byd Gwaith.


Bob blwyddyn, mae’r rhwydwaith yn cymryd rhan yng ngŵyl Wythnos Addysg Oedolion sy’n cael ei threfnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, ac mae’n cyrraedd ei huchafbwynt gyda’r Gwobrau Ysbrydoli.


Roedd y rhai oedd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau wedi’u henwebu gan diwtoriaid, mentoriaid a staff ar ôl cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a hyfforddi, gan gynnwys Sgiliau Sylfaenol, Mathemateg a Saesneg, Dysgu Ymgysylltu Camau Cyntaf, hyfforddiant galwedigaethol, cyfrifiaduron a chyrsiau Cymraeg.


Mewn rhai achosion, mae’r dysgwyr wedi trechu anableddau a rhwystrau eraill megis problemau o ran hyder, gorbryder ac iechyd meddwl, i gyflawni eu hamcanion a chael cydnabyddiaeth eu tiwtoriaid am fod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill.


Cafwyd cyflwyniadau gan y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, a Janine Bennett, Deon Coleg Caerdydd a’r Fro.


Croesawyd gwesteion i’r digwyddiad gan Rhodri Matthews, Uwch Lyfrgellydd, ac yn feistr y ddefod oedd Phil Southard, Rheolwr Diwylliant a Dysgu Cymunedol.


“Roedd hon yn noson arbennig fyddwn i ddim wedi’i cholli am y byd. Roedd cymaint o straeon ysbrydoledig ac roedd hi’n galonogol gweld y bondiau cryf a chefnogol rhwng myfyrwyr a’u tiwtoriaid. 

 

“Hoffwn ddiolch am noson mor hyfryd, sydd wedi creu cymaint o atgofion hapus i’r myfyrwyr a’u teuluoedd balch.” - y Cynghorydd Lis Burnett: