Cost of Living Support Icon

 

Y Dirprwy Arweinydd yn croesawu yr ymateb i newidiadau mewn ailgylchu

Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg Lis Burnett wedi canmol preswylwyr am gofleidio newidiadau i gasgliadau ailgylchu ar ôl i ddegau o filoedd o fagiau a blychau glas gael eu dosbarthu o fewn dim ond ychydig o ddyddiau.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Mewn ymdrech i ddileu’r broblem o lygredd a lleihau maint y plastig un-tro sy’n cael ei gasglu, yn fuan bydd ailgylchu ond yn cael ei dderbyn os caiff ei roi yn y cynhwysyddion hyn a ddosberthir gan y Cyngor.


Mae hyn oherwydd y bu lleiafrif bach o bobl yn cynnwys eitemau na ellir eu hailgylchu megis cewynnau brwnt, gro cathod a gwastraff bwyd yn eu hailgylchu.


Gall hyn gael effaith amgylcheddol sylweddol gan fod loriau llawn ailgylchu’n cael eu gwrthod yn y ganolfan brosesu a gorfod cael ei drin fel gwastraff bagiau du.


Mae bagiau a blychau glas y Cyngor y gellir eu hailddefnyddio yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon a hefyd i dorri lawr ar faint y plastig un-tro i’w waredu oherwydd y bu preswylwyr yn defnyddio eitemau megis bagiau bin a brynwyd mewn archfarchnadoedd ar gyfer eu hailgylchu yn flaenorol.

 

Cllr Lis Burnett new

Gan siarad â Bro Radio, dywedodd y Cynghorydd Burnett: “Mae’r ffordd y mae pobl wedi ymateb yn hollol anhygoel. Bu effaith enfawr eisoes. Mae llawer iawn llai o fagiau plastig na ellir eu hailgylchu yn cael eu defnyddio a hoffwn ddiolch i bobl am eu hymdrechion. 


“Mae’n eithaf trawiadol pan fyddwch yn meddwl am y ffigurau. Erbyn amser cinio ddydd Mawrth roedden ni wedi dosbarthu tua 20,000 o fagiau glas ac mae hynny’n golygu bod 20,000 llai o fagiau plastig yn mynd i safleoedd tirlenwi bob wythnos. Mae hynny’n nifer ryfeddol a bydd yn cael effaith fawr.


“Ond ar hyn o bryd, mae hynny’n fudd eilaidd. Y pwynt cyntaf i fynd i’r afael ag ef yw'r mater o lygredd fel y gellir ailgylchu ein hailgylchu.

 

“Pan gyrhaeddodd ailgylchu'r depo sy’n ei ddidoli, roedd llawer o bethau yno na ddylai fod yno. Roeddem yn cyrraedd sefyllfa lle roedd hyd at draean o'r holl ailgylchu yn cael ei wrthod yn y depo didoli.


“Pan fydd y gwastraff yn mynd i’r depo, byddant yn cymryd sampl o ‘r gwastraff ar y lori honno ac os bydd lefel uchel o lygredd, byddant yn gwrthod y cyfan. 

 

“Nid yw hynny’n beth da pan fydd pobl wedi treulio llawer iawn o amser yn didoli eu hailgylchu, ond hefyd nid yw'n dda am yr amgylchedd ac mae’n costio arian i drethdalwyr. Aeth y mater yn un brys a bu'n rhaid i ni symud y cynllun i wneud y newidiadau hyn ymlaen."

 

Am y tro, parheir i gasglu gwastraff fel o’r blaen, ond yn fuan bydd rhaid rhoi ailgylchu mewn bagiau a blychau glas a ddosberthir gan y Cyngor er mwyn cael eu derbyn. 


Maent ar gael am ddim o Ddepo’r Alpau yng Ngwenfô a’r Swyddfeydd Dinesig yn ystod mis Awst. Y mis hwn gall bagiau gael eu casglu o lyfrgelloedd Y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen. 


Bydd preswylwyr yn gallu rhoi dau fag du o sbwriel allan bob pythefnos o hyd, a chaniateir mwy na hynny o dan rai amgylchiadau penodol.

 

Contaminated recycling in the Vale

 

“Rwy’n ymddiheuro am unrhyw ddryswch, ond mae angen i ni bwysleisio pa mor daer yw’r mater hwn,” ychwanegodd y Cynghorydd Burnett.


“Ein her fwyaf oedd cadw stoc yn y pwyntiau dosbarthu. Mae gennym dimau sy’n gyrru o gwmpas y pwyntiau dosbarthu yn barhaus yn eu stocio a byddwn yn parhau i wneud hynny nes byddwn yn hyderus bod pawb wedi cael y cyfle i gael y bagiau sydd eu hangen arnynt.


“Mae’r holl fagiau glas a blychau gwyrdd yn rhad ac am ddim, felly cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch o ran y rheiny, ac ni effeithir ar sbwriel y bagiau du. Os oes gennych anifeiliaid anwes neu deulu mawr, er enghraifft, cysylltwch â ni a gallwch gael lwfans ychwanegol o fagiau porffor. Wedyn bydd ailgylchu naill ai’n mynd mewn bin gwastraff bwyd, bagiau glas neu flychau gwyrdd y Cyngor.


“Hefyd buom yn sicrhau bod blychau gwastraff bwyd ar gael ac mae pobl wedi bod yn mynd â’r rheiny gan ddweud nad ydynt wedi ailgylchu gwastraff bwyd o’r blaen. Mae hynny’n rhywbeth cadarnhaol arall. 


“Ni fyddwn yn gweithredu’r newid cyfan nes byddwn  yn fodlon ein bod wedi llwyddo i sichrau’r bagiau a'r blychau ailgylchu i bawb sydd eu hangen.


“Byddem yn dweud wrthych am beidio â mynd i banig. Peidiwch â gwneud taith unswydd, bydd digon i bawb. Os hoffech chi ei adael tan yr wythnos nesaf pan fydd y brys wedi tawelu, efallai byddai hynny'n well o lawer.” 

 Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau a sut i gael bagiau a blychau gwyrdd ar gael ar wefan y Cyngor.