Cost of Living Support Icon

 

Lansio Gwyl Ffilm newydd y Fro ar gyfer yr Hydref

Bydd menter adfywio gwledig Cyngor Bro Morgannwg yn lansio gŵyl ffilm newydd sbon ym mis Medi 2019.

 

  • Dydd Llun, 05 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Main Street Cosmeston Medieval Village banner sizeBydd Y Fro Gudd yn dathlu’r doniau creadigol sydd i’w cael ar hyd a lled y Fro. Y nod yw dod â bywyd newydd i rai o leoliadau unigryw y Fro, megis Castell Sain Dunwyd, Pentref Canoleosol Cosmeston a Stwidios DRESD yn Sain Tathan, gyda nifer o ddigwyddiadau ymdrochol. 


Bydd mynychwyr yn gallu cyfrannu at drafodaeth, dosbarthiadau meistr a gweithdai ar sgriniau gwyrdd, coluro, prostheteg, propiau a setiau, animeiddio a phypedau, gyda sesiynau Holi ac Ateb hefyd gyda rhai o arbenigwyr y diwydiant. 

 

Bydd rhaglen eang o ddangosiadau ffilm, yn cynnwys clasuron megis Top Gun, The Great Escape a Jurassic Park. Bydd teitlau newydd hefyd yn cael eu dangos, megis Early Man, Rocketman – a gafodd ei rhyddhau eleni, a’r ffilm wobrwyog Kingsman: The Secret Service.

 

Yn rhan o’r digwyddiad, bydd darpar wneuthurwyr ffilm yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu ffilm funud o hyd. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru, fydd hefyd yn ei beirniadu.  

 

Bydd Stiwdios DRESD yn cynnal ymgais Record Byd Guinness ar gyfer y Cwis Ffilm mwyaf erioed, yn rhan o ddiweddglo’r ŵyl ar 5 Hydref. Bydd 500 o gystadleuwyr yn cael eu gosod mewn timau o 10 ac yn cael eu hamgylchynu gan bropiau a setiau o ffilmiau a rhaglenni teledu poblogaidd. 

 

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei ysbrydoli gan y Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r project wedi derbyn cyllid drwy Gyngor Bro Morgannwg a Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

“Mae llwyth o ddiwylliant a thalent ym Mro Morgannwg, ac mae’r Cyngor yn ymrwymedig at gefnogi mentrau sy’n helpu i feithrin y doniau hyn. 


“Mae’n fraint i ni, drigolion y Fro, gael y project hwn ar stepen ein drws, a’i ddigwyddiadau amrywiol a chyffrous dros bythefnos yr ŵyl.  Bydd rhywbeth at ddant pawb, yn ddi-os.” - Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.

 

“Rydyn ni’n cefnogi projectau cwbl unigryw yn ystod yr ŵyl, ac mae llawer ohonyn nhw am ddim i’r cyhoedd. 

 

“Yn eu plith, mae dogfen fer ar werthwyr y Big Issue yn y Fro, project hanes llafar a digwyddiad Ail Ryfel Byd ym Mharc Awyrofod Sain Tathan. I nodi pen-blwydd Apocalypse Now yn 40, byddwn yn cynnal dangosiad arbennig mewn awyrendy, wedi’n hamgylchynu gan awyrennau o’r cyfnod. 

 

“Mae’r ymateb gan y gymuned wledig wedi bod yn anhygoel, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr ŵyl yn dechrau.” - Madeleine Sims, Swyddog Adfywio Gwledig a churadur yr ŵyl.

Mae’r gystadleuaeth ffilm fer ar agor nawr ar www.valefilmfest.co.uk a bydd y rhaglen gyfan a’r tocynnau ar gael o 19 Awst.