Cost of Living Support Icon

 

Lansio Gwasanaethau Cofrestru Parhaol yn Llandochau

Mae Gwasanaeth Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau nawr ar gael yn barhaol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Registration services group photo banner size
 

Wedi’i leoli yn flaenorol yn West House, Penarth, mae’r gwasanaeth wedi ei dreialu ar y safle ers mis Ionawr 2019. Cafwyd adborth hynod gadarnhaol amdano.  

 

Mae partneriaeth rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro nawr yn galluogi teuluoedd i gofrestru marwolaethau a genedigaethau ar dir yr ysbyty. 

 

Bydd hwn hefyd yn rhoi’r cyfle i ledaenu’r gwasanaeth i gofrestru hysbysiadau priodi a phartneriaeth sifil yn y dyfodol. 

 

Mae hyn yn rhoi cyfle i deuluoedd a’r gymuned gofrestru’n gyfleus, heb orfod i rai deithio i’r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd sy’n dioddef trawma, straen neu brofedigaeth. 
Mae’r Gwasanaeth Cofrestru ar lawr cyntaf yr ysbyty, ger y Swyddfa Profedigaeth. 

 

“Mae newid, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn gallu anesmwytho unigolion a theuluoedd. Drwy resymoli’r gwasanaeth, bydd yn lleihau’r pwysau ar ein trigolion wrth iddyn nhw fynd drwy’r newidiadau hyn. 


“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth staff profedigaeth yr ysbyty, sy’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth.” - Eddie Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Cynllunio a Rheoleiddio.

 

“Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg, mae’r BIP yn ymdrechu i wella profiad y sawl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd yn eu bywydau. Rydyn ni’n falch o allu parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol i ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn.” - Ruth Walker, Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio HIP Caerdydd a’r Fro.