Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yr rhagori eto yng ngwobrau yr faner werdd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael 10 Baner Werdd gan Cadwch Gymru'n Daclus yn dilyn perfformiad syfrdanol yng ngwobrau eleni.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Wedi perfformio’n well nag y disgwyliwyd iddi eto, mae’r Fro yn un o'r Awdurdodau Lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru.


O'r 22 Cyngor hynny, gan gynnwys awdurdodau dinas Abertawe a Chasnewydd, dim ond Caerdydd sydd wedi llwyddo i gael mwy na chyfanswm y Fro.


Bydd Parc Romilly, Parc Alexandra a Gerddi Windsor, Glan y Môr Ynys y Barri a Phenryn Friars, Parc Belle Vue, Central Park, Gerddi’r Cnap, Parc Victoria, Parc Gladstone, Parc Gwledig Cosmeston a Pharc Gwledig Porthceri yn chwifio’r baneri, sy’n nodi man awyr agored o’r ansawdd gorau.

 

Greentwo (2)


Mewn mannau eraill yn y Sir, llwyddodd mynwent Merthyr Dyfan, a gynhelir gan Gyngor Tref y Barri, i ennill Baner Werdd, ac enillodd 13 o safleoedd wobrau cymunedol.


Mae’r rhain yn cynnwys: Fferm Goldsland, Perllan Lanlay, Gardd Gymunedol y Barri, Coetiroedd Birchgrove, Little Hill Brock Street, Gerddi’r Eos, Perllan Wyllt Gwenfô, Gwarchodfa Natur Leol Cwm Talwg, Y Berllan Elisabethaidd, Gerddi Old Hall, Cae’r Berllan Uchaf Gwenfô, Perllan Gymunedol Gwenfô, Perllan Gymreig Gwenfô. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:"Rwyf wrth fy modd bod y Fro unwaith eto wedi rhagori ac ennill cynifer o barciau Baner Werdd. O ystyried ein hadnoddau o'u cymharu ag awdurdodau eraill, mae hyn yn gamp wirioneddol ryfeddol ac yn dyst i waith caled staff ein parciau. Eu hymrwymiad hwy sy’n cadw ein mannau gwyrdd yn edrych yn wych drwy'r flwyddyn.

 

Greentwo (1)

“Hoffwn ddiolch a llongyfarch y grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd hefyd wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad a'u gwaith caled parhaus.


"Mae’r safon sydd ei hangen i ennill statws y Faner Werdd yn hynod o uchel a gwneir cryn ymdrech y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod gan drigolion gymaint o ardaloedd awyr agored gwych i'w mwynhau yn y Fro."

Bydd y gwobrau'n cael eu beirniadu ym mis Ebrill a mis Mai a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf. Mae'n rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu gwobr, ac mae safleoedd buddugol yn gymwys i hedfan Baner Werdd am 12 mis.


Caiff parciau eu beirniadu ar sail wyth maen prawf, gan gynnwys glendid, diogelwch, safon cynnal a chadw, ymgysylltiad â’r gymuned, cynaliadwyedd, rheolaeth, cadwraeth a threftadaeth. 

 

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: "Unwaith eto, mae'n wych gweld Baneri Gwyrdd yn hedfan ar gynifer o safleoedd ar draws Bro Morgannwg. Mae llwyddiant parhaus y Sir yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd eu staff a'u gwirfoddolwyr anhygoel.  


"Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau, ein hiechyd a'n lles, ein natur a'n heconomi. Rydym am annog pawb i fwynhau eu hardal leol a gwneud y gorau o'r safleoedd sydd wedi ennill gwobrau ar eu stepen drws."